Ambell gynnig arall i drosi 'to mainstream' i Gymraeg llai termllyd:
1. best example practices will need to be mainstreamed - bydd angen i
enghreifftiau o'r arferion gorau gael eu gweithredu ledled y wlad/ar raddfa
helaethach o lawer
2. to mainstream equality into all development activities - sicrhau bod
cydraddoldeb yn rhan o brif ffrwd pob gweithgaredd datblygu/yr holl
weithgareddau datblygu
Berwyn (ar fore Sul)
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, November 23, 2002 8:59 PM
Subject: mainstreaming
> e.e. "importance of mainstreaming and embedding equality". Roeddwn i wedi
> mmeddwl dweud "pwysigrwydd gwneud cydraddoldeb yn rhan hanfodol o waith y
> sefydliad" ond wedyn ceir "how this mainstreaming approach may be
pursued".
> Unrhyw syniadau - oes rhywun arall yn gweithio ar nos Sadwrn?
> Sian
>
|