Rwy'n credu mai T Emrys Parry, yr arolygydd ysgolion gynt, a awgrymodd
'ymagwedd' fel gair posibl i gyfleu 'approach', a rhaid dweud 'mod i wedi'i
ddefnyddio'n gyson am flynyddoedd. Er na alla i ddim a^ dweud 'mod i wedi
ymserchu ynddo, mae'r ystyr yn weddol glir, am wn i, sef yr enw o'r ferf
'ymagweddu'. Mae'n osgoi creu amwysedd mewn teitl fel 'Approach and
Treatment', er enghraifft. (Mae gan y Saesneg lawer gormod o eiriau ac yn
cynnig gormod o gyfle i fiwrocratiaid greu teitlau rhwysgfawr!)
Mae'n ddigon hawdd i fois fel Gwilym Owen ladd ar 'didyniadau' a thermau
tebyg - beth fyddai ef yn ei gynnig petai'n gorfod cyfieithu'r geiriau
hynny? Os gallant gynnig rhywbeth gwell, gorau oll, ond bob tro rydw i wedi
clywed Gwilym a'i debyg yn ceisio awgrymu gwelliant, mae eu hawgrymiadau
naill ai'n salach gan iddyn nhw fethu a^ deall y cyd-destun neu'n dangos
iddyn nhw fethu a^ deall holl ystyr y gair Saesneg a gyfieithwyd.
Er enghriafft, fe awgrymodd Gwilym Owen un tro y byddai 'camlesi' yn well
cyfieithiad na 'dyfrffyrdd' am 'waterways' ond mae 'waterways' yn cynnwys
afonydd a dyfroedd eraill, ac er nad yw 'dyfrffyrdd' yn air atyniadol iawn
roedd yn cyfleu'r ystyr yn fwy cywir a chynhwysfawr na 'camlesi'. Ond
ceisiwch ofyn i fois y cyfryngau ymddiheuro am eu sylwadau anwybodus ac fe
gewch chi weld pa mor barod ydyn nhw i arfer eu craffter i weld y trawst yn
eu llygaid eu hunain!
Dyna ddigon o bregethu. I'r rhai a fethodd a^ dod i 'r Gynhadledd ym Mhennal
ddoe, fe golloch chi gyfarfod da iawn. Byddai Owain Glyndw^r wedi anfon
llythyr at w-t-c i so^n amdani!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 29, 2002 10:18 PM
Subject: Project Proposal for an All Wales Approach
Ar ôl darllen y drafodaeth flaenorol, beth am 'Cynnig o Brosiect i Lunio
Ymdriniaeth ar gyfer Cymru Gyfan'?
Wyn
|