> Dyma'r ieithoedd sydd heb gyfieithiad pendant eto, gyda fy nghynigion i:
Mae cyngion Bruce (sydd yn aml yr un fath) bob tro ar y llinell nesaf.
>
> Afar - Afar
Affareg
> Assamese - Asameg
Asameg
> Aymara - Aimareg
Aimareg
> Azerbaijani - ?
Aserbaijani neu Aserbaijaneg
> Bashkir - Bashgir
Bashgireg
> Belarusian - Belarwseg
Belarwseg
> Bulgarian - Bwlgareg
Bwlgareg
> Bislama - Bislameg ?
Heb wybod rhagor am Bislama, gadewer fel y mae am y tro: Bislama
> Dzongka - ?
Dsonca
> Gallegan - Galegan
Iaith Galisia yw Gallego, Galiseg yn Gymraeg.
> Interlingua - Interlingua
Iaith wneud ryngwladol - fel Esperanto - yw Interlingua. Gadawer fel y mae:
Interlingua
> Interlingue - Interlingue
Ni wn ba beth yw Interlingue, ond os yw'n rhywbeth gwahanol i Interlingua,
gadewer fel y mae.
> Inupiaq - Inwpieg ?
Inwpiac
> Inuktitut - Inwctitwt ?
Inwctitwt neu Iaith yr Inwit [=Esgimos]. Byddai Inwiteg yn bosibl.
> Japanese - Siapaneg / Siapanaeg (pa un yw'r gorau?)
Siapaneg
> Kazakh - ?
Casacheg
> Kalaalisut - ?
Calaaliswt
> Khmer - ?
Chmereg
> Letzeburgesch - ?
Iaith Lwcsembwrg yw Letzeburgesch, felly Lwcsembwrgeg (Letsebwrgesh)
> Macedonian - Macedonieg
Macedoneg (nid MacedonIeg)
> Moldavian - Moldafieg
Moldafeg (nid MoldafIeg)
> Maltese - Malteg / Malti (pa un?)
Malti neu Malteg; Melita yw enw'r ynys yn y Beibl, felly gellid dweud
Meliteg.
> Occitan - Ocitan
Ocsitaneg (noder yr 's'). Occitan yw iaith Occitanie (sef rhannau o Dde
Ffrainc). Gelwid hi gynt yn
'langue d'oc' neu (yn anghywir) yn 'Provencal'. (ni allaf ddangos y sedila
dan yr 'c')
> Oromo - Oromoeg ?
Oromo
> Pushto - run iaith a Pushtu/Pashto? - Pathaneg ?
(Ie, yr un iaith) Pwshtw
> Rundi - Rwndi
Rwndi
> Kinyarwanda - ?
Ciniarwanda
> Sindhi - ?
Sind[h]i
> Sango - Sango
Sango
> Shona -
Shona
> Swati - Swati
Swati
> Sotho - Sotho ?
Sotho
>
Os ceir '-ese' neu '-ian' yn Saesneg, yna iaith a enwyd ar o^l ei siaradwyr
neu eu gwlad: mae'n ddiogel ychwanegu '-eg' yn Gymraeg, e.e. Siapaneg,
Asameg. Onid e, ni ddylid ychwanegu '-eg' yn Gymraeg fel rheol; felly,
Swahili, nid Swahilieg, am nad enw gwlad na phobl yw 'Swahili': enw'r iaith
ei hun yw.
Bruce
|