O ran gwybodaeth, iaith yr Inwit (dydyn nhw ddim yn hoffi'r gair 'Esgimo'
gan mai enw difriol yw hwnnw, mae'n debyg, ac fe ddylid felly addasu'r
cofnod yng Ngeiriadur yr Academi) yw Inwctitwt (ac efallai y dylid ei
sillafu'n 'Inwcti-twt' i gael y pwylsais yn y lle cywir). Mae'n anodd gwybod
a fyddai 'Inwit-eg' yn dderbyniol!
Yn o^l eitem ar y radio yn ddiweddar, mae cynrychiolwyr yr Inwit wedi dod
ynghyd yn ddiweddar i geisio sefydlu orgraff safonol i'r iaith er mwyn i'w
siaradwyr gwasgaredig iawn allu ei hysgrifennu a'i darllen.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, August 15, 2002 4:11 PM
Subject: Re: enwi'r byd yn gymraeg
> > Mae 'na lyfr mewn bodolaeth - wn i ddim a yw mewn print, ond yn
anffodus,
> > meddai Bruce, ni all gymeradwyo pob ffurf yn y rhestr, a lle mae'n
wahanol i
> > Eiriadur yr Academi, dylid ddilyn y Geiriadur!
>
> Diolch Ann.
>
> Dwi wedi anwybyddu yr "Atlas Cymraeg" (does gen i ddim y fersiwn 'newydd')
> a dilyn esiampl Y Geiriadur.
>
> Dyma'r ieithoedd sydd heb gyfieithiad pendant eto, gyda fy nghynigion i:
>
> Afar - Afar
> Assamese - Asameg
> Aymara - Aimareg
> Azerbaijani - ?
> Bashkir - Bashgir
> Belarusian - Belarwseg
> Bulgarian - Bwlgareg
> Bislama - Bislameg ?
> Dzongka - ?
> Gallegan - Galegan
> Interlingua - Interlingua
> Interlingue - Interlingue
> Inupiaq - Inwpieg ?
> Inuktitut - Inwctitwt ?
> Japanese - Siapaneg / Siapanaeg (pa un yw'r gorau?)
> Kazakh - ?
> Kalaalisut - ?
> Khmer - ?
> Letzeburgesch - ?
> Macedonian - Macedonieg
> Moldavian - Moldafieg
> Maltese - Malteg / Malti (pa un?)
> Occitan - Ocitan
> Oromo - Oromoeg ?
> Pushto - run iaith a Pushtu/Pashto? - Pathaneg ?
> Rundi - Rwndi
> Kinyarwanda - ?
> Sindhi - ?
> Sango - Sango
> Shona -
> Swati - Swati
> Sotho - Sotho ?
>
> Mi 'rwy am roi'r rhestr llawn ar dudalen gwe nes ymlaen, fel
> cyfieithiad o safon ISO-639
>
> --
> Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
>
>
|