On Thu, Jun 27, 2002 at 01:56:02PM +0100, Geraint Lovgreen wrote:
> Oes gan unrhyw un o gwbwl allan fan'na unrhyw syniad?
Mae'n swnio fel 'marquee tool' sydd yn cael ei ddefnyddio mewn
meddalwedd dylunio graffeg. Mae'r teclyn yn eich galluogi i ddewis
ardal o'r delwedd i weithio arno - i'w symud neu gymhwyso steil neu
effaith. Mae'r siap yn ymddangos ar y sgrin gyda llinell dorredig ac
mae'n bosib dewis siap cylch/petryal/sgwar neu siap rhydd.
Felly mae marquee yn y fan hyn yn golygu 'area to operate on'.
Alla'i ddim meddwl am ddim byd addas heblaw 'teclyn dewis ardal'
(falle nid ardal yw'r gair gorau chwaith).
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|