On Thu, Jun 27, 2002 at 01:56:02PM +0100, Geraint Lovgreen wrote: > Oes gan unrhyw un o gwbwl allan fan'na unrhyw syniad? Mae'n swnio fel 'marquee tool' sydd yn cael ei ddefnyddio mewn meddalwedd dylunio graffeg. Mae'r teclyn yn eich galluogi i ddewis ardal o'r delwedd i weithio arno - i'w symud neu gymhwyso steil neu effaith. Mae'r siap yn ymddangos ar y sgrin gyda llinell dorredig ac mae'n bosib dewis siap cylch/petryal/sgwar neu siap rhydd. Felly mae marquee yn y fan hyn yn golygu 'area to operate on'. Alla'i ddim meddwl am ddim byd addas heblaw 'teclyn dewis ardal' (falle nid ardal yw'r gair gorau chwaith). -- Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>