Hir. Mae'n air Cymraeg cynhenid.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, May 13, 2002 4:54 PM
Subject: Re: code
> Pa fath o "o" sydd yn "cod" ( "coden", "cwd"; Saesneg "bag", "pouch",
"purse" )?
>
> -----Original Message-----
> From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 13 May 2002 16:45
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: code
>
>
> Does dim angen to bach. Mewn gair unsill ac o flaen 'd', 's', 'f','dd' (o
> leiaf), mae pob llafariad mewn geiriau Cymraeg cynhenid yn hir. Pwy fu'n
> ddigon craff i sylwi ar hynny, wn i ddim, ond fe dybiwyd felly nad oedd
> angen cynnwys to bach.
>
> Ond wele, arbenigwyr a ddaeth o bellafoedd eu meysydd i fathu termau a
> cheisio benthyca geiriau bach handi. "Bydd pobl yn meddwl mai 'cod', y
gair
> Saesneg am bysgodyn yw hwn," meddent, "a sut mae gwahaniaethu rhyngddo a'r
> 'cod' sy'n gywasgiad o 'cyfod'?' Sylwadau digon teg, ond nid felly y mae
> rheolau orgraff y Gymraeg yn gweithio.
>
> Gweler Gramadeg y Gymraeg Peter Wynn lle mae'n so^n am broblem debyg, sef
> ffurfiau lluosog 'gem' a ge^m': "Er gwaethaf dyhead rhai pobl i
wahaniaethu
> rhwng lluosogion 'gem' a 'ge^m' drwy gadw'r acen grom ar yr ail, 'gemau'
yw
> ffurf gymeradwy y ddau enw." (td 783)
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, May 13, 2002 3:56 PM
> Subject: code
>
>
> > Oes to bach ar cod => code (fel post code, ASCII code, etc.) ?
> >
> > Termiadur - nagoes
> > GA - nagoes
> > GPC - nagoes
> > CySill - oes
> > Cydweithwyr (2 hyd yma!) - oes
> >
> > Diolch am unrhyw sylwadau.
> >
> > Dafydd
> >
> > [log in to unmask]
> >
>
|