Os hynny, onid oes yn rhaid gwahaniaethu rhwng y ddau god?
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, May 13, 2002 5:22 PM
Subject: Re: code
> Hir. Mae'n air Cymraeg cynhenid.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, May 13, 2002 4:54 PM
> Subject: Re: code
>
>
> > Pa fath o "o" sydd yn "cod" ( "coden", "cwd"; Saesneg "bag", "pouch",
> "purse" )?
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
> > Sent: 13 May 2002 16:45
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: code
> >
> >
> > Does dim angen to bach. Mewn gair unsill ac o flaen 'd', 's', 'f','dd'
(o
> > leiaf), mae pob llafariad mewn geiriau Cymraeg cynhenid yn hir. Pwy fu'n
> > ddigon craff i sylwi ar hynny, wn i ddim, ond fe dybiwyd felly nad oedd
> > angen cynnwys to bach.
> >
> > Ond wele, arbenigwyr a ddaeth o bellafoedd eu meysydd i fathu termau a
> > cheisio benthyca geiriau bach handi. "Bydd pobl yn meddwl mai 'cod', y
> gair
> > Saesneg am bysgodyn yw hwn," meddent, "a sut mae gwahaniaethu rhyngddo
a'r
> > 'cod' sy'n gywasgiad o 'cyfod'?' Sylwadau digon teg, ond nid felly y mae
> > rheolau orgraff y Gymraeg yn gweithio.
> >
> > Gweler Gramadeg y Gymraeg Peter Wynn lle mae'n so^n am broblem debyg,
sef
> > ffurfiau lluosog 'gem' a ge^m': "Er gwaethaf dyhead rhai pobl i
> wahaniaethu
> > rhwng lluosogion 'gem' a 'ge^m' drwy gadw'r acen grom ar yr ail, 'gemau'
> yw
> > ffurf gymeradwy y ddau enw." (td 783)
> >
> > Berwyn
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Dafydd Roberts" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Monday, May 13, 2002 3:56 PM
> > Subject: code
> >
> >
> > > Oes to bach ar cod => code (fel post code, ASCII code, etc.) ?
> > >
> > > Termiadur - nagoes
> > > GA - nagoes
> > > GPC - nagoes
> > > CySill - oes
> > > Cydweithwyr (2 hyd yma!) - oes
> > >
> > > Diolch am unrhyw sylwadau.
> > >
> > > Dafydd
> > >
> > > [log in to unmask]
> > >
> >
>
|