Rwyf wrthi'n gweithio ar ddeunyddiau hyfforddi i blant Blwyddyn 9 am
iechyd rhywiol. Oes cymorth i'w gael o rhywle? Hynny yw, oes termau
safonol wedi'u penderfynu a'u casglu er mwyn i mi gadw atynt - mae na
flynyddoedd lawer ers pan fum i ym Mlwyddyn 9 , neu beth bynnag oedd o
bryd hynny - ac mae'n ddrwg gen i ddweud nad yw fy merched 12, 17 a 19
oed fawr o help chwaith. Ddim eisiau trafod y fath faterion hefo mam,
sbo. Geirfa safonol ydw i ei heisiau - gallaf ymdopi hefo'r arddull+ACE-
Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gymorth neu gyfarwyddiadau - mae
Geiriadur yr Academi wrth fy ochr yn barhaus wrth gwrs.
Magi
|