Mae'r 'Termiadur Ysgol' ISBN 1 86112 180 6 (rhestr swyddogol ACCAC) yn
cynnwys nifer o dermau.
Hefyd, fel y soniodd John Puw, mae 'Termau Hybu Iechyd' (Gol. Delyth Prys)
ISBN 1-84220-009-7. +AKM-6.00
Gall 'Termau Bydwreigiaeth' (gol D Prys) ISBN 38 1 84220 020 8, fod yn
ddefnyddiol i helpu disgyblion blwyddyn 9 sylweddoli beth yw canlyniadau
anwybodaeth am addysg rhyw. Mae'r Ganolfan Safoni Termau a'r Ysgol Nyrsio a
Bydwreigiaeth yma ym Mangor hefyd yn gweithio ar broject ehangach yn y maes
yma.
Mae dwy restr arall a allai fod yn berthnasol ar y gweill ac i'w cyhoeddi
yn ystod y misoedd nesaf sef: 'Termau Iechyd Meddwl Plant' [i'w gyhoeddi
gan Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru] a 'Termau Seicoleg' [Prifysgol Cymru,
Bangor].
--
------------
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
|