Diolch yn fawr - dwi'n well rwan. Magi
----- Original Message -----
From: "Gareth Bevan" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, April 16, 2002 02:30
Subject: Re: cynaliadwy / cynaladwy
> >A wnaiff rhyw
> >ramadegydd caredig egluro i mi pam fod Geiriadur Prifysgol Cymru yn
> >hoi - bon y ferf, cynhaliaf: cynnal +- iadwy am cynaliadwy ond yn
> >cynnig am cynaliedig, cynaledig - bon y ferf, cynhaliaf: cynnal +-
> >(i)edig.
>
> Geiriadur disgrifiadol yw GPC - yn ceisio cofnodi'r hyn sy'n digwydd
yn yr
> iaith.
> Yn 1957, pan gyhoeddwyd yr erthyglau ar y geiriau _cynaliadwy_ a
> _cynaliedig_, nid oedd gan y staff enghraifft o'r ffurf _cynaladwy_.
Yr
> **oedd** ganddynt enghreifftiau o'r ffurfiau _cynalieig_ a
_cynaledig_.
> Dyna paham mae'r ddwy erthygl yn wahanol. Pan adolygir y gwaith, fe
> gynhwysir y ff. _cynaladwy_ - oherwydd bod gennym enghreifftiau
ohoni - gan
> gynnwys un o Eiriadur Walters ar ddiwedd y 18g. na wyddai staff 1957
amdani.
>
> >Pam na chaf y dewis felly o ddweud cynaladwy.
>
> Rhwydd hynt ichi wneud, o ran GPC. Fel y dywedwyd o'r blaen, ceisio
> cofnodi'r hyn sy'n digwydd yn yr iaith mae hwnnw. Ond cofiwch fod
> _cynaliadwy_ yn hy^n ac yn fwy cyffredin na _cynaladwy_.
> Ffigurau Google: c/gynaladwy 771; c/gynaliadwy 2030.
>
> >a fu newid arfer/ amrywiaethau rhyw dro?
>
> Do, mae'n amlwg. Tua diwedd y 18g.
>
> Gareth
|