Cyfieithiad y gair 'Lieder' ydi 'cān'. Yr hyn sy'n ei wneud yn unigryw yw
safon anhygoel y caneuon oedd cyfansoddwyr Awstria a'r Almaen yn eu llunio
yn ystod y cyfnod Rhamantaidd (a hyd at 1949 pan fu farw Richard Strauss).
Mae 'Chanson' yn golygu'r un fath yn Ffrangeg, 'Canzone' yn Eidaleg a 'Song'
yn Saesneg. Yr unig un o'r rhain all gyffwrdd safon 'Lieder' ydi cynnyrch
Ffrainc yn negawdau cynta'r 20fed Ganrif. Ond yn y bon, caneuon ydi'r cwbl.
Mae 'Big Band', 'Cerdd Dant', 'Reggae' ac ati yn cyfeirio at ardduliau o
fewn cyfryngau ehangach nad oes dim cyfatebol iddynt mewn diwylliannau
eraill - hynny ydi, os nad rhywun yn gwybod yn wahanol wrth gwrs.
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 10, 2002 3:51 PM
Subject: Re: big band
> Take me to your Lieder.
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: John Puw [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: Wednesday, April 10, 2002 3:56 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: big band
>
>
> Mae "big band" yn derm sy'n disgrifio math arbennig o gerddoriaeth jazz,
yn
> yr un modd ag y bo "cerdd dant" yn disgrifio math arbennig o ganu gwerin.
> Nid yw'n bosib cyfieithu'r un o'r ddau hyd y gwela i.
>
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 10, 2002 12:05 PM
> Subject: big band
>
>
> > 'Big band' - Cyfieithu 'ta gadael fel y mae?
> > Sian
> >
>
|