Ie, Berwyn. Pan oeddwn i'n gweithio ar Y Cymro a phapurau eraill,
oherwydd absenoldeb newyddion caled yn ystod gwyliau'r haf, a'r Senedd
wedi gorffen tan y sesiwn nesaf etc., fe elwid y cyfnod hwnnw, fel y
gwneir o hyd, yn 'silly season'.
Os bydd cystadleuaeth ar wefan y gymdeithas, gallai'r cartwn hwnnw agor
y 'silly season' ac esgor ar ymadrodd fel 'Translators take a turn for
the worst' neu 'Translators' tantrums turn tempestuous'!
Gellid cynnwys llun lliw o'n hannwyl Cerys. O na ddeuai'n ôl atom!
Cytunaf fod cythraul gyrru yn dweud y peth i'r dim.
John.
|