>> Hoffwn amenio'n frwd ac yn antiffonaidd - wel, a siarad yn drosiadol!
Mae yna gyd-destunau technegol manwl (yn y gyfraith [AMEN! - TS],
gwyddoniaeth, meddygaeth ac ati) lle mae termau yn cario ystyr benodol
iawn. Dyma beth mae'r arbenigwyr yn ei alw yn LSP (language for special
purposes). Mae'n ddigon posibl fod y math yma o iaith yn cael ei
gorddefnyddio i swnio'n grand/cuddio ystyr/taflu llwch i lygad y cyhoedd neu
jyst am fod y cyfreithwyr/gwyddonwyr/meddygon wedi anghofio sut i siarad
gyda phobl gyffredin. Er hynny, ceir gyd-destunau lle mae angen y termau
technegol manwl - y gamp yw medru gwahaniaethu a gwybod pryd i ddefnyddio'r
cywair priodol.
>> Sylwais hefyd fod proffesiynolion weithiau yn hoffi siarad am eu gwaith
gan ddefnyddio termau sydd (i fod, o leia) yn >> perthyn yn fwy i iaith
bob dydd nag i'r eirfa dechnegol - e.e. gweithwyr iechyd yn dweud 'baby
doctor' am 'pædiatrician', >> morwyr yn galw pen blaen y llong yn 'sharp
end', darlledwyr yn sôn am raglenni yn 'mynd mâs' yn hytrach na 'chael eu
>> darlledu', ayyb. Fodd bynnag, gyhyd a bod y termau 'iaith bob dydd' ddim
yn disodli'r termmau technegol mewn cyd-destunau
>> technegol, fe ddylai'r meysydd semantig cywir aros yn eglur ac yn
sefydlog. Mae cymylu iaith dechnegol â thermau ac >> ymadroddion
anghywir yn angymwynas â'r iaith a'i defnyddwyr fel ei gilydd.
Dro'n ôl ym Mangor fe geisiwyd rhoi nodiadau darlithiau bydwreigiaeth drwy
felin Cymraeg Clir mewn ymgais i'w gwneud yn haws i'r myfyrwyr eu deall.
Cafwyd adwaith anffafriol iawn oddi wrth y darlithwyr, am eu bod yn mynnu
bod yn rhaid i'r myfyrwyr ddysgu y termau a'r cywair technegol yn ogystal a
'iaith y fam'. Yn sgil y drafodaeth hon rydym wedi dechrau cyflwyno termau
"F:" ('familiar terms') ochr yn ochr â'r termau technegol ambell waith yn
ein geiriaduron termau, mewn ymgais i roi arweiniad ar gywair llai ffurfiol.
>> Syniad gwych - yn werth ei efelychu mewn sawl maes, hwyrach?
A dilyn yr egwyddor hon mae'n debyg mai'r cofnod llawn am sister yn y Termau
Nyrsio a Bydwreigiaeth ddylai fod: prif einyddes nyrsio F: sister. Mae
Glenys yn llygaid ei lle na fyddai neb yn cyfarch sister fel 'prif weinyddes
nyrsio'. Ar y llaw arall, wrth drafod swyddogaeth a gwaith sister yn y
darlithiau, teimlwyd ei bod yn briodol arddel y teitl swydd mwy ffurfiol.
Mae problem arall gyda'r term sister yn Gymraeg am nad yw'n ffurf
gynhyrchiol h.y. nid oes modd creu ffurfiau eraill ohono, yn wahanol i
'nyrs' sy'n rhoi'r lluosog 'nyrsys' a'r ferf 'nyrsio' (ac am wn i does neb
yn cynnig 'gweinyddes' yn lle 'nyrs').
>> Mae hyn yn bwnc werth ei drafod ar raddfa lawer letach hyd yn oed, rwy'n
meddwl.
Efallai bod angen dweud hefyd bod y wyddor o safoni termau yn perthyn i LSP
yn unig.
>> Pam?
Dyma lle mae cyd-destun technegol manwl yn gofyn am gysondeb ac ymlyniad
wrth safonau penodol. Pan fydd ymgais i orfodi'r termau hyn ar yr iaith bob
dydd rydyn ni'n troi yn blismyn iaith
>> Diffiniad?
- a'n gwaredo.
>> Trafoder!
Tim
|