Mae 'practisiau' yn ddigon derbyniol. Dyna'r ffurf sydd gan Bruce a Robyn
Lewis.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Glenys Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 13, 2002 12:37 PM
Subject: Re: sister
> Diolch Delyth - ydy, mae'n broblem gymhleth.
> Pwynt diddorol yw'r un am y 'ffurfiau cynhyrchiol'. Mi ges i broblem
debyg
> flynyddoedd yn ôl wrth geisio cyfieithu 'practice' (h.y. practis meddyg
> teulu). Roedd 'practis' yn swnio'n iawn ond beth ar y ddaear oedd y
> lluosog, ac roedd yn lluosog yn digwydd yn ddiddiwedd yn y ddogfen
ddiflas!
> Yn y diwedd rydw i'n meddwl imi fynd am 'gofalaeth' (cf. gofalaeth
> gweinidog) a rhoi 'practis' mewn cromfachau. Yn anffodus, dydw i ddim mor
> drefnus â Berwyn wrth gofnodi'r pethau yma ...
>
> Glenys
> ----- Original Message -----
> From: Delyth Prys <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, March 13, 2002 12:17 PM
> Subject: Re: sister
>
>
> > Wel, dyma finnau'n mentro rhoi fy mhen ar y bloc yn awr.
> > Nid hollt rhwng iaith lafar ac iaith ysgrifenedig yw craidd y ddadl
rhwng
> > termau cyfeillgar (Cymraeg Clir ac ati) a thermau technegol (jargon yn
> > ddigon aml).
> > Mae yna gyd-destunau technegol manwl (yn y gyfraith, gwyddoniaeth,
> > meddygaeth ac ati) lle mae termau yn cario ystyr benodol iawn. Dyma beth
> > mae'r arbenigwyr yn ei alw yn LSP (language for special purposes). Mae'n
> > ddigon posibl fod y math yma o iaith yn cael ei gorddefnyddio i swnio'n
> > grand/cuddio ystyr/taflu llwch i lygad y cyhoedd neu jyst am fod y
> > cyfreithwyr/gwyddonwyr/meddygon wedi anghofio sut i siarad gyda phobl
> > gyffredin. Er hynny, ceir gyd-destunau lle mae angen y termau technegol
> > manwl - y gamp yw medru gwahaniaethu a gwybod pryd i ddefnyddio'r cywair
> > priodol.
> > Dro'n ôl ym Mangor fe geisiwyd rhoi nodiadau darlithiau bydwreigiaeth
drwy
> > felin Cymraeg Clir mewn ymgais i'w gwneud yn haws i'r myfyrwyr eu deall.
> > Cafwyd adwaith anffafriol iawn oddi wrth y darlithwyr, am eu bod yn
mynnu
> > bod yn rhaid i'r myfyrwyr ddysgu y termau a'r cywair technegol yn
ogystal
> a
> > 'iaith y fam'. Yn sgil y drafodaeth hon rydym wedi dechrau cyflwyno
termau
> > "F:" ('familiar terms') ochr yn ochr â'r termau technegol ambell waith
yn
> > ein geiriaduron termau, mewn ymgais i roi arweiniad ar gywair llai
> ffurfiol.
> > A dilyn yr egwyddor hon mae'n debyg mai'r cofnod llawn am sister yn y
> Termau
> > Nyrsio a Bydwreigiaeth ddylai fod: prif weinyddes nyrsio F: sister. Mae
> > Glenys yn llygaid ei lle na fyddai neb yn cyfarch sister fel 'prif
> weinyddes
> > nyrsio'. Ar y llaw arall, wrth drafod swyddogaeth a gwaith sister yn y
> > darlithiau, teimlwyd ei bod yn briodol arddel y teitl swydd mwy
ffurfiol.
> > Mae problem arall gyda'r term sister yn Gymraeg am nad yw'n ffurf
> > gynhyrchiol h.y. nid oes modd creu ffurfiau eraill ohono, yn wahanol i
> > 'nyrs' sy'n rhoi'r lluosog 'nyrsys' a'r ferf 'nyrsio' (ac am wn i does
neb
> > yn cynnig 'gweinyddes' yn lle 'nyrs').
> > Efallai bod angen dweud hefyd bod y wyddor o safoni termau yn perthyn i
> LSP
> > yn unig. Dyma lle mae cyd-destun technegol manwl yn gofyn am gysondeb ac
> > ymlyniad wrth safonau penodol. Pan fydd ymgais i orfodi'r termau hyn ar
yr
> > iaith bob dydd rydyn ni'n troi yn blismyn iaith - a'n gwaredo.
> >
> > Delyth
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Glenys Roberts" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, March 13, 2002 10:34 AM
> > Subject: Re: sister
> >
> >
> > > Ydw i am roi fy mhen ar y bloc yn y drafodaeth yma .?... mmm ...
> > > Beth fyddai barn pobl Cymraeg Clir am y term 'Prif Weinyddes Nyrsio',
ac
> o
> > > ran hynny am 'Gweinyddes'? Onid ydy'r termau 'Nyrs' a 'Sister' wedi
bod
> > yn
> > > rhan o Gymraeg llafar (graenus) ers digon o amser i gael eu derbyn i'r
> > iaith
> > > ysgrifenedig bellach? Amau rydw i bod y termau 'Gweinyddes' a 'Phrif
> > > Weinyddes' yn gwneud i'r Gymraeg swnio'n ddieithr neu'n orfawreddog
i'r
> > rhan
> > > fwyaf o Gymry Cymraeg yn y proffesiwn ...
> > >
> > > Annwyl Brif Weinyddes Nyrsio,
> > > Ydych chi'n gwybod pwy ydych chi?!
> > >
> > > Mae'n rhaid i dermau fod o leiaf yn dderbyniol ar lafar cyn bod
gobaith
> > > iddynt ennill eu plwyf. Mae arna i ofn bod y frwydr wedi ei cholli
> efo'r
> > > ddau derm hyn.
> > >
> > > DOCTOR: Brif Weinyddes Nyrsio, sut mae Mr Jones y bore 'ma?
> > >
> > > Go brin.
> > >
> > > Gyda llaw - rydw i'n gwybod mai ailagor hen drafodaeth fydd hyn i
Delyth
> > a'i
> > > thîm ym Mangor ac y bydd yr ystyriaethau hyn wedi eu trafod eisoes â
> > > chynrychiolwyr byd nyrsio etc., ynghyd â phroblem FAWR beth i'w wneud
> pan
> > > fo'r Sister yn ddyn. Ond peth byw yw iaith, ac mae'n dal i newid,
felly
> > > daliwn i drafod ...!
> > >
> > > Glenys
> > >
> > > ON Mi fydda i'n gorfod cyfieithu'r termau hyn mewn hysbysebion swyddi
> > > weithiau ac rwy'n defnyddio 'Nyrs' a 'Sister' (a 'Prif Nyrs' am
'Charge
> > > Nurse').
> > >
> > >
> > > ----- Original Message -----
> > > From: Gwen Rice <[log in to unmask]>
> > > To: <[log in to unmask]>
> > > Sent: Wednesday, March 13, 2002 8:54 AM
> > > Subject: Re: sister
> > >
> > >
> > > > Diolch i bawb sydd wedi ymateb. Efallai na wnes i egluro'n iawn, ond
y
> > > > cyd-destun yw 'Sister ... (+ enw)' ar amlen a 'Dear Sister ... (+
> enw)'
> > ar
> > > > lythyr.
> > > > Gwen
> > > >
> > > > -----Original Message-----
> > > > From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
> > > > Sent: 12 March 2002 20:30
> > > > To: [log in to unmask]
> > > > Subject: Re: sister
> > > >
> > > >
> > > > Yn Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae Delyth yn rhoi 'prif weinyddes
> > > > nyrsio'.
> > > >
> > > > Berwyn
> > > >
> > > > ----- Original Message -----
> > > > From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
> > > > To: <[log in to unmask]>
> > > > Sent: Tuesday, March 12, 2002 5:05 PM
> > > > Subject: sister
> > > >
> > > >
> > > > > Mewn ysbyty. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig prif nyrs, nyrs
hyn,
> > ac
> > > > (ar
> > > > > lafar) sister. Fel teitl, ai 'Prif Nyrs (Jones, neu beth bynnag)'
a
> > > > > ddefnyddir wrth gyfeirio at y person. (Ac oes enw arall (yn y
> Saesneg)
> > > am
> > > > > ddyn sy'n gwneud y fath waith? Mae'r Gymraeg, wrth gwrs, yn
ddiogel
> yn
> > > hyn
> > > > o
> > > > > beth os anghofiwn ni am 'sister'.)
> > > > > Diolch
> > > > > Gwen
> > > > >
> > >
>
|