-----Original Message-----
From: Delyth Prys [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Friday, March 08, 2002 2:18 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: transitional plan
... sylwer i mi ddweud mai "tynnu sylw'r sawl gomisiynodd y cyfieithiad
gwreiddiol at wallau pwysig" ddylid ei wneud - nid y cyfieithydd ei hun.
> Cweit. Ond carwn awgrymu, gyda phob dyledus ostyngeiddrwydd, na fydd y
cyfieithydd cyfrifol - a gyflogwyd, wedi'r cyfan, er
> mwyn cyflawni gorchwyl na fedrai'r comisynwr ei gyflawni - heb gyfraniad
i'w wneud i'r drafodaeth.
... yr un modd gyda thrafod ystyr termau, nid mater o drafod gyda
chyfieithwyr eraill yw hyn ... Nid hynny'n *unig*, wrth reswm, ond gweler fy
sylwadau uchod!
... deall y cysyniad yn y gwreiddiol sy'n bwysig!
> Amen sawl gwaith drosodd!
... Rwy'n meddwl ei bod hi'n help hefyd nodi mai dim ond gyda "gwallau
pwysig"
> Iawn ... ond bydd angen diffiniad eglur o beth sy'n gwneud gwall yn
'bwysig'. Umrhyw ganllawiau, gyfeillion addfwyn?
Tim
|