I ddilyn sylwadau Tim ynghylch tynnu sylw at broblemau gyda thermau mewn
cyfieithiadau cynharach, sylwer i mi ddweud mai "tynnu sylw'r sawl
gomisiynodd y
cyfieithiad gwreiddiol at wallau pwysig" ddylid ei wneud - nid y cyfieithydd
ei hun. Yr un modd gyda thrafod ystyr termau, nid mater o drafod gyda
chyfieithwyr eraill yw hyn, ond yn gyntaf gyda'r comisiynydd gwreiddiol, ac
os nad oes goleuni i'w gael yno, yna gydag arbenigwr pwnc. Does dim rhaid
iddo/iddi fod yn medru'r Gymraeg hyd yn oed, deall y cysyniad yn y
gwreiddiol sy'n bwysig!
Rwy'n meddwl ei bod hi'n help hefyd nodi mai dim ond gyda "gwallau pwysig" y
dylid mynd ati i geisio unioni pethau - neu mi fyddwn ni wrthi drwy'r amser
yn rhedeg ar ôl rhyw gamgymeriad neu'i gilydd.
Yn sicr rhaid peidio â chollfarnu cyfieithwyr unigol wrth geisio cywiro
gwall - ac mae'r cylch hwn yn ceisio atal cyfranwyr rhag mynd yn bersonol -
mae'n anodd weithiau! Gwell osgoi enwi cyfieithydd wrth drafod gwall mewn
dogfen (ac mae'n brafiach peidio gwybod pwy oedd y cyfieithydd o gwbl).
Efallai ei bod hi'n haws ystyried hyn fel rhan o broses rheoli ansawdd, ac
mae'n bwysig datblygu systemau o fewn sefydliadau sy'n medru adolygu a
thracio diwygiadau.
Ar fater yr archif, efallai ei bod hi'n briodol atgoffa aelodau'r cylch eto
fod eu HOLL gyfarniadau yn cael eu harchifo'n awtomatig a'u bod yno mewn
ffurf y gellir eu chwilio ar y we neu wneud allbrint ohonynt. Mae'n bwysig
cynorthwyo chwiliadau yn yr archif drwy beidio cynnwys sylwadau am fwy nag
un term o dan un pennawd, na negeseuon personol, negeseuon yn diolch,
negeseuon smala (yn y fan hon rwy'n cael trafferth dilyn fy nghanllawiau fy
hun a pheidio enwi...) Mae'r canllawiau hyn ar gael yn llawn ar y we ar
safle welsh-termau-cymraeg yn jiscmail.
Yn olaf, gair o werthfawrogiad. Rydyn ni sydd yn ymwneud â'r gwaith termau
ym Mangor yn sicr yn gwerthfawrogi cyfraniadau'r cylch i drafod termau
problemus ac yn defnyddio'r archif wrth lunio geiriaduron termau newydd yma.
Rydyn ni hefyd wedi bod yn trafod cynnig papur i ryw gyhoeddiad/cynhadledd
ar y defnydd sy'n cael ei wneud o'r cylch, fel rhywbeth a fyddai o
ddiddordeb i wledydd a sefyllfaoedd eraill, ac mae croeso i unrhyw un arall
ddefnyddio'r archif yn yr un ffordd wrth gwrs.
Delyth
|