nid yw'r enw "aber Llwchwr" yn cael ei arddel yn lleol, ac nid oes y fath
enw ag "aber Byri" yn bod ychwaith - bae Caerfyrddin yw'r unig enw Cymraeg y
byddwn i'n ei ddefnyddio ar gyfer y darn hwn o'r môr (o draeth Llanelli i
Borth Tywyn a thu hwnt)
-----Original Message-----
From: Delyth Prys [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 12 February 2002 10:06
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Burry
Nid yw 'aber Llwchwr' yn addas - mae hon yn nes i'r dwyrain (yr ochr arall i
Lanelli) rhwng Llangennech ac Abertawe. Does gen i ddim map wrth law i
fanylu mwy - dim ond cof plentyn. 'Y teid' oedd yr enw ar lafar yn
Llangennech lle roedd yr afon Llwchwr yn mynd i'r môr - un o hoff lefydd fy
nhad i fynd i saethu hwyaid gwyllt yn y gaeaf, ond lle peryg iawn lle
collodd nifer o blant eu bywydau yn y cerrynt twyllodrus.
Delyth
----- Original Message -----
From: Glenys Roberts <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 12, 2002 10:00 AM
Subject: Re: Burry
Mi ges i afael ar fap neithiwr (mamylach na'r un sy yn yr Atlas Cymraeg) a
gweld bod y 'Burry Inlet' yn cyfeirio fel roedd Bruce yn awgrymu at ddarn
llawer mwy o fôr na'r darn sy'n union o gwmpas Porth Tywyn! Felly mae 'aber
Llwchwr' yn awgrym da baswn i'n meddwl. Tybed fasai tad Lisa yn cytuno?
Mae gen i gwestiwn arall hefyd .. ond gwell imi ufuddhau i'r rheolau ac
anfon neges ar wahân!
Glenys
----- Original Message -----
From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Sent: Monday, February 11, 2002 4:42 PM
Subject: Re: Burry
>Ydy hi'n wir nad oes enw Cymraeg ar afon 'Burry'?
Nac yw, meddai Bruce - Afon Byri.
Mae o'n methu dod o hyd i unrhyw beth ar gyfer Burry Inlet, ond o edrych ar
y map mae o'n awgrymu Aber Llwchwr, neu o bosibl Aber Byri.
Ann
_____________________________________________________________________
This email has been scanned for viruses by the MessageLabs SkyScan service.
GSI users - for further details, please contact the GSI Nerve Centre.
In case of problems, please call your organisations IT helpdesk.
|