Bydde, fe fydde fy nhad yn cytuno! - o edrych ar hen fapiau glofaol o'r
ardal nithwr, wedodd e - o'r hyn y gallai weld - taw un rhan o afon Llwchwr
oedd y Burry River ta beth - felly, er taw "Burry Port" yw'r enw Saesneg ar
y dref yn nes lawr y bae, aber afon Llwchwr yw e - a falle bo'r ffaith taw
"Porth Tywyn" yw'r enw Cymraeg ar y dref yn dangos nad oedd yr afon mor
bwysig / enwog â hynny (???)
-----Original Message-----
From: Glenys Roberts [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 12 February 2002 10:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Burry
Mi ges i afael ar fap neithiwr (mamylach na'r un sy yn yr Atlas Cymraeg) a
gweld bod y 'Burry Inlet' yn cyfeirio fel roedd Bruce yn awgrymu at ddarn
llawer mwy o fôr na'r darn sy'n union o gwmpas Porth Tywyn! Felly mae 'aber
Llwchwr' yn awgrym da baswn i'n meddwl. Tybed fasai tad Lisa yn cytuno?
Mae gen i gwestiwn arall hefyd .. ond gwell imi ufuddhau i'r rheolau ac
anfon neges ar wahân!
Glenys
----- Original Message -----
From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Sent: Monday, February 11, 2002 4:42 PM
Subject: Re: Burry
>Ydy hi'n wir nad oes enw Cymraeg ar afon 'Burry'?
Nac yw, meddai Bruce - Afon Byri.
Mae o'n methu dod o hyd i unrhyw beth ar gyfer Burry Inlet, ond o edrych ar
y map mae o'n awgrymu Aber Llwchwr, neu o bosibl Aber Byri.
Ann
_____________________________________________________________________
This email has been scanned for viruses by the MessageLabs SkyScan service.
GSI users - for further details, please contact the GSI Nerve Centre.
In case of problems, please call your organisations IT helpdesk.
|