Yn sicr roedden ni'n defnyddio'r enw 'aber Llwchwr' yn yr ysgol gynradd
(ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli) a byddai fy nhad hefyd yn cyfeirio ati
hefyd, ond byddai ef yn defnyddio'r ffurf 'aber y Llwchwr' hefyd. Ond roedd
yr enw yma yn gyfyngedig i'r darn o afon rhwng y ddwy bont olaf ar yr afon
(yn fras rhwng Pontardulais a Gorseinon), ac i ni yn Llangennech yn enwedig
i'r darn lle roedd yr afon Morlais yn ymuno â'r Llwchwr.
Nid wyf innau'n gyfarwydd ag 'aber Byri', a bae Caerfyrddin oedd yr enw yr
arferwn innau am y darn o fôr.
Delyth
----- Original Message -----
From: "Tiplady, Lisa (OPO)" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 12, 2002 10:19 AM
Subject: Re: Burry
> nid yw'r enw "aber Llwchwr" yn cael ei arddel yn lleol, ac nid oes y fath
> enw ag "aber Byri" yn bod ychwaith - bae Caerfyrddin yw'r unig enw Cymraeg
y
> byddwn i'n ei ddefnyddio ar gyfer y darn hwn o'r môr (o draeth Llanelli i
> Borth Tywyn a thu hwnt)
>
> -----Original Message-----
> From: Delyth Prys [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 12 February 2002 10:06
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Burry
>
>
> Nid yw 'aber Llwchwr' yn addas - mae hon yn nes i'r dwyrain (yr ochr arall
i
> Lanelli) rhwng Llangennech ac Abertawe. Does gen i ddim map wrth law i
> fanylu mwy - dim ond cof plentyn. 'Y teid' oedd yr enw ar lafar yn
> Llangennech lle roedd yr afon Llwchwr yn mynd i'r môr - un o hoff lefydd
fy
> nhad i fynd i saethu hwyaid gwyllt yn y gaeaf, ond lle peryg iawn lle
> collodd nifer o blant eu bywydau yn y cerrynt twyllodrus.
>
> Delyth
>
> ----- Original Message -----
> From: Glenys Roberts <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, February 12, 2002 10:00 AM
> Subject: Re: Burry
>
> Mi ges i afael ar fap neithiwr (mamylach na'r un sy yn yr Atlas Cymraeg) a
> gweld bod y 'Burry Inlet' yn cyfeirio fel roedd Bruce yn awgrymu at ddarn
> llawer mwy o fôr na'r darn sy'n union o gwmpas Porth Tywyn! Felly mae
'aber
> Llwchwr' yn awgrym da baswn i'n meddwl. Tybed fasai tad Lisa yn cytuno?
> Mae gen i gwestiwn arall hefyd .. ond gwell imi ufuddhau i'r rheolau ac
> anfon neges ar wahân!
>
> Glenys
> ----- Original Message -----
>
> From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Monday, February 11, 2002 4:42 PM
> Subject: Re: Burry
>
> >Ydy hi'n wir nad oes enw Cymraeg ar afon 'Burry'?
> Nac yw, meddai Bruce - Afon Byri.
> Mae o'n methu dod o hyd i unrhyw beth ar gyfer Burry Inlet, ond o edrych
ar
> y map mae o'n awgrymu Aber Llwchwr, neu o bosibl Aber Byri.
> Ann
>
>
> _____________________________________________________________________
> This email has been scanned for viruses by the MessageLabs SkyScan
service.
>
> GSI users - for further details, please contact the GSI Nerve Centre.
>
> In case of problems, please call your organisations IT helpdesk.
>
|