A gadael o'r neilltu wamalu arferol Tim, mae defnyddio geirfa gymeradwy wrth
drafod anabledd yn fater o gwrteisi amlwg. Mater i bobl anabl eu hunain yw
dweud pa dermau sy'n gymeradwy ganddynt, a pha dermau sy'n eu brifo am eu
bod yn ddifrïol neu'n angharedig.
Dro'n ôl fe wnaethom ni fel Canolfan Safoni Termau ddarn o waith ar gyfer
Anabledd Cymru yn safoni termau yn y maes - ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg -
(y tro cyntaf i unrhyw un ofyn i ni safoni termau Saesneg).
Cynnyrch y project hwn oedd Anabledd ac Iaith: Canllawiau defnyddio
terminoleg anabledd ISBN 1 903396 01 8 sy'n cynnwys trafodaeth ar pa dermau
sy'n dderbyniol neu'n annerbyniol ynghyd â'r rhesymau pam, yn ogystal â
rhestr o dermau. Mae ar gael gan Anabledd Cymru, Cwrt Wernddu, Parc Busnes
Caerffili, Heol y Fan, Caerffili CF83 3ED am y pris o £15.
Er mwyn cael barn pobl anabl am y derminoleg, fe ymwelodd ein hymchwilydd â
grwpiau o bobl anabl ledled Cymru i ofyn am eu barn. Roedd yna deimlad
cyffredinol cryf yn erbyn ffurfiau fel 'yr anabl' 'y deillion' 'y byddar' ac
ati - er yn eironig ddigon mae termau fel hyn wedi'u crisialu yn nheitlau
llawer iawn o fudiadau. Dyma oedd y rheswm dros argymell ffurfiau fel 'pobl
anabl' 'pobl ddall' ac ati.
Roedd problem benodol gyda'r ffurf 'pobl ag anabledd' gan fod rhai pobl
anabl mwy milwriaethus yn dadlau mai cymdeithas oedd yn eu gwneud yn anabl
(e.e. drwy beidio darparu drysau digon llydan i gadair olwyn fynd
drwyddynt), yn hytrach na'u cyflwr corfforol neu feddyliol. Roedd yn well
ganddynt ddefnyddio 'nam' ('impairment' yn Saesneg) wrth gyfeirio at eu
cyflwr. Mae 'pobl anabl' yn gymeradwy gan bawb, heb sôn am fod yn fwy cryno,
felly dyma gafodd ei argymell.
Os ydych chi am wybod mwy, darllenwch y llyfr....
Delyth Prys
|