Benywaidd - a dim dewis - medd y Geiriadur Cyfoes; gwrywaidd - a dim dewis -
medd Geiriadur yr Academi; enw gwrywaidd/benywaidd, medd Geiriadur y
Brifysgol. Un o broblemau geiraduron yw nad oes ynddyn nhw ddigon o le i
gyfiawnhau eu dewis ...
O edrych ar y we, mae'r ddwy ffurf i'w gweld, ac mae hynny'n adlewyrchu'r
dryswch sy'n codi ymhlith geiriadurwyr a bathwyr termau wrth geisio
cymreigio benthyciad - sy'n enw diryw - o'r Lladin. Yn yr achos hwn, byddwn
i'n dweud 'Stadiwm Cenedlaethol' yn weddol bendant ond yn simsanu wrth
feddwl am ymadrodd megis 'rhyw stadiwm fawr'!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Mandi Morse" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 21, 2002 3:46 PM
Subject: Stadiwm
> Pa un sy'n gywir?
> Stadiwm Cenedlaethol?
> Stadiwm Genedlaethol?
> Mae'r gair 'stadiwm' yn air benywaidd a gwrywaidd!
> A oes gan unrhywun farn ar y mater?
> Diolch.
> Mandi Morse
>
|