Er mor chwithig y mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf, DWY FIL A DAU yw'r
ffurf 'gywir'. Does neb, hyd y gwn i, wedi mynnu dweud MIL NAW CANT A
PHEDWAR na MIL NAW SAITH PEDAIR. Ni ddefnyddir ffurf fenywaidd y rhif yn y
cyd-destun hwn.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 02, 2002 9:26 PM
Subject: 2002
Fe gododd trafodaeth yn yr Uned 'cw, heddiw, ynglyn â sut y dylid dweud
enw'r flwyddyn newydd -- ydy hi'n Ddwy fil a DAU, ynteu Dwy fil a DWY?
P'un yw'r un cywir -- a pham?
|