Byddwn i'n cytuno a^ Dafydd fod 'rhithwir' yn well dewis na 'rhithiol' gan
mai ystyr 'rhithiol', yn o^l Geiriadur y Brifysgol yw 'ffug, ffuantus,
twyllodrus, annilys'. Mae'n perthyn yn rhy agos i 'lledrithiol'!
Ga i gynnig 'Amgylchedd Dysgu a Reolir' (ADR, os oes angen byrfodd - ond
gweler isod) am 'Managed Learning Environment'?
O ran trosi VLE ac MLE, a fyddai hi'n well cadw at y byrfoddau Saesneg gan
mai ADRh fyddai'r cyntaf ac ADR fyddai'r olaf, a bod 'adr' yn dalfyriad o
'adroddiad'?
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 16, 2002 12:31 PM
Subject: Re: VLE a MLE
> On Wed, Jan 16, 2002 at 12:10:53PM -0000, Llinell Gyswllt wrote:
> > Oes gan unrhyw un awgrym ynglyn â chyfieithiad ar gyfer y canlynol
> >
> > Virtual Learning Environment a Managed Learning Environment
>
> > Yr awgrym oedd gennym ni oedd VLE- Amgylchedd dysgu
> > rhithiol
>
> Amgylchedd dysgu rhithwir
>
> --
> Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
>
|