Mae llawer iawn o hen bobl/pobl hyn Wrecam sydd wedi golli eu Cymraeg,
yn dal i ddweud pethau hyll fel 'the Grosville' ac yn sôn am 'catching
the buz'. Wrth gwrs, yr hyn sydd yma yw olion o'r Gymraeg - y treiglo
wedi llithro rywsut trwodd i'r Saesneg a'r bobl sydd wedi colli eu
Cymraeg ddim yn gwybod pam maen nhw'n siarad fel hynny! Mae hynny yn
beth digon trist. Ydy'r math yma o beth yn digwydd mewn rhannau eraill
o Gymru? Dwi'n cofio pan oeddwn i'n byw ym Mhenarth, rywun yn dweud
wrtha'i, 'in Cardiff, sex is what the coal comes in!'! - sy'n gwbl
groes i'r a yn troi yn e fel yn y gair Parc - a glywir fel Perc - gan
rai o'n cyd-Gymry.
Dwi'n rhannu swyddfa efo rhywun sy'n dweud 'dishgwl' i gyfleu 'edrych'.
Ie. Mae iaith yn beth astrus!
John.
|