I'm going to gatch my nhrain.
Tim
-----Original Message-----
From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Monday, December 03, 2001 3:42 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo ar ôl Uned
Pan oeddwn i'n byw yn Gresffordd flynyddoedd maith yn o^l, byddai perchennog
y siop bapurau leol yn arfer so^n am 'catching the Grozzville buz to town'!
Berwyn
----- Original Message -----
From: John D <mailto:[log in to unmask]> Williams
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 03, 2001 3:22 PM
Subject: Treiglo ar ôl Uned
Ie Berwyn. Mae'ch dadl yn ddilys mae'n debyg. Doeddwn i erioed wedi meddwl
am y gwahaniaeth ystyr a all fod rhwng ffair gaeaf a ffair aeaf, ond dwi'n
derbyn sut mae gweld fod yna un.
Gyda llaw, mae gen i deulu a aeth o Gymru flynyddoedd yn ôl i fyw i
gyffiniau Wakefield yn Swydd Efrog ac mae gwerinwyr y fro yn treiglo yn
feddal. Nid Bradford a glywir ond Bratford heb os naconi bai. Dwi'n cofio
Bedwyr yn dweud fod 'y Gymraeg yn ddwfn yn naear yr Hen Ogledd'. Dyna ni yn
ardal Elfed - Elmet heddiw ynde.
Ta beth - sôn am Americanwyr yn treiglo, geiriau fel dudy yn lle duty, onid
math ar dreiglad trwyno a geir yn Saesneg wrth negyddu ansoddeiriau -
accessible, inaccessible, operable ac inoperable ond perfect ac imperfect,
impossible, imprison etc.?
John
|