Ond os yden nhw'n deud dishgwl yn lle edrych, ac erfyn yn lle disgwyl, be
maen nhw'n ddeud yn lle erfyn?
Geraint
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 03, 2001 4:30 PM
Subject: Re: Treiglo ar ôl Uned
> Mae'r cydweithiwr yn llygad ei le - 'dishgwl' fydda i'n ei ddweud hefyd am
> 'to look' a bydd rhai pobl yma yn y de yn dweud 'erfyn' am 'disgwyl'.
>
> Rwy'n cofio Dr Enid Pierce Roberts yn tynnu sylw at dreiglad a oedd i'w
gael
> yn iaith y gogledd, sef 'y neuadd bentref' lle byddai pobl y de'n dweud
> 'neuadd y pentref'. Hyn, mae'n debyg, sy'n peri i bobl so^n am 'y Bwrdd
> Iaith' yn hytrach nag am 'Bwrdd yr Iaith', er y byddai'n amhosibl dweud 'Y
> Bwrdd Iaith Gymraeg'. Ond nid rhesymeg yw sylfaen iaith: y syndod,
efallai,
> yw ei bod hi mor rhesymegol ag yw hi.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, December 03, 2001 3:57 PM
> Subject: Treiglo ar ôl Uned
>
>
> > Mae llawer iawn o hen bobl/pobl hyn Wrecam sydd wedi golli eu Cymraeg,
> > yn dal i ddweud pethau hyll fel 'the Grosville' ac yn sôn am 'catching
> > the buz'. Wrth gwrs, yr hyn sydd yma yw olion o'r Gymraeg - y treiglo
> > wedi llithro rywsut trwodd i'r Saesneg a'r bobl sydd wedi colli eu
> > Cymraeg ddim yn gwybod pam maen nhw'n siarad fel hynny! Mae hynny yn
> > beth digon trist. Ydy'r math yma o beth yn digwydd mewn rhannau eraill
> > o Gymru? Dwi'n cofio pan oeddwn i'n byw ym Mhenarth, rywun yn dweud
> > wrtha'i, 'in Cardiff, sex is what the coal comes in!'! - sy'n gwbl
> > groes i'r a yn troi yn e fel yn y gair Parc - a glywir fel Perc - gan
> > rai o'n cyd-Gymry.
> > Dwi'n rhannu swyddfa efo rhywun sy'n dweud 'dishgwl' i gyfleu 'edrych'.
> > Ie. Mae iaith yn beth astrus!
> > John.
> >
|