Neil, Diolch am roi gwybod am cyfeiriadaucymru - doeddwn i ddim yn gwybod
amdano. Oes rhywun yn gwybod pa mor "swyddogol" yw'r rhestr? Rwy wedi bod
yn defnyddio'r rhestr ar wefan y Post Brenhinol i chwilio am gyfeiriadau ond
mae honno'n tueddu i roi enwau strydoedd yn Saesneg yn unig. Mae'n tudalen
gartref cyfeiriadaucymru'n son am "rywfaint o ryddid o ran yr hyn a
ysgrifennir yng ngweddill y cyfeiriad" - ydi hyn yn golygu nad yw'n
swyddogol?
Sian
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 17, 2001 10:20 AM
Subject: drive
> [ Ymddiheuriadau os ych chi wedi gweld y cwestiwn yn barod ar restr
arall ]
>
> Beth fyddai "Vicarage Drive" yn Gymraeg?
> "Rhodfa'r Ficerdy"?
>
> Oes 'na awdurdod o unryw fath yn ymwneud a chyfieithu enwau heolydd?
> Rwyf wedi trio Cyfeiriadau Cymru ( http://www.cyfeiriadaucymru.com/ ) ond
chafodd fy ymholiadau ddim ymateb.
|