Yr oedd Swyddfa'r Post yn arfer cynnwys rhestr o enwau dwyieithog swyddogol
yn eu cyhoeddiad 'Y Llyfr Cyfeiriadau Post', ond ni chynhwyswyd y rhestr
honno yn fersiwn 1999/2000 ohono am ei bod, mae'n debyg, yn anodd casglu'r
holl enwau ynghyd a bod enwau dwyieithiog yn codi fel slecs ar hyd y lle.
Hwyrach mai'r gam-gyfatebiaeth ryfeddaf yw honno yn Nolgellau. Yn o^l rhestr
Swyddfa'r Post, yr enw Saesneg ar 'Felin Ucha' yw 'Kenkast Bungalow Area'!
Cyn i Glenys fy nghystwyo eto am ddilyn sgwarnog (arall), gwell tewi.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Meinir Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 17, 2001 12:28 PM
Subject: Re: drive
>
> Tydy enwau strydoedd ddim bob amser yn cyfateb rhwng y naill iaith a'r
> llall - yng Nghaernarfon er enghraifft, Stryd Pedwar a Chwech (yr un
> enwog!!) ydy Northgate Street, a Mountain Street (dwi'n credu) ydy Pentre
> Newydd (Bridge Street = Y Bont Bridd, Stryd Porth Mawr = High Street ayb).
> Dwi'n meddwl bod hyn oherwydd fod yr enwau swyddogol gwreiddiol yn
Saesneg,
> a'r enwau Cymraeg yn rhai fyddai'n cael eu harfer ar lafar gwlad gan y
> werin (mae nhw'n dueddol o fod llawer iawn mwy disgrifiadol), sydd bellach
> yn cael eu derbyn yn 'swyddogol'.
>
> Difyr 'te!
>
> Meinir
>
>
----------------------------------------------------------------------------
----
> Bwriedir y trosglwyddiad post electronig hwn ar gyfer y derbynyddion a
enwir yn unig. Fe all gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os
ydych wedi ei dderbyn trwy gamgymeriad ni ddylech gyflawni unrhyw weithred
yn seiliedig arno, na'i gopio na'i ddangos i unrhyw un; ffoniwch ni ar
unwaith os gwelwch yn dda a dychwelyd y gwreiddiol i ni. Nid ydym yn
derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i unrhyw
feirws meddalwedd. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriad feirws fel y
bo'r angen cyn agor unrhyw atodiad a allai fod ynghlwm i'r neges hon.
>
> This electronic mail transmission is intended for the named recipients
only. It may contain private and confidential information. If this has
come to you in error you must take no action based upon it, nor must you
copy it or show it to anyone; please telephone us immediately and
return the original to us. We cannot accept any liability for any loss
or damage sustained as a result of software viruses. It is your
responsibility to carry out such virus checking as is necessary before
opening any attachment which may be included with this message.
>
|