O edrych ar y trafodaethau bywiog a difyr am dermau megis 'support' ac
'authority control' a gaf i atgoffa cyfranwyr yn gynnil iawn am y
canllawiau sydd gennym,
diolch,
Prys
-----------------------------
GWYBODAETH AM DERM
Wrth holi am derm arbennig mae fuddiol cynnwys cymaint o wybodaeth ag sydd
gennych, megis:
1.beth yw’r term, gan gynnwys gwahanol rannau ymadrodd perthnasol;
2.beth yw’r maes neu’r parth (gwyddoniaeth, cyfreithiol, beirniadaeth
lenyddol, gweinyddu... );
3.brawddegau neu ymadroddion enghreifftiol;
4.beth yw’r diffiniadau sydd mewn geiriaduron Saesneg;
5.beth yw’r cynigion sydd ar gael mewn geiriaduron neu ddogfennau
Cymraeg;
6.unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â’r awgrymiadau.
-----------------------------
Ann Corkett wrote:
>
> Annwyl Tim,
>
> Er gwaethaf cael y cyd-destun, nid wyf eto'n deall yr ystyr. Dw i'n gwneud
> rhywfaint o waith i lyfrgell, ond heb ddod ar draws y term eto. Ga i
> eglurhad, os gwelwch yn dda?
>
> Ann
--
------------
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
|