O'r New Oxford Dictionary of English (1999):
--------------------------
Induction > noun
1. action or process of inducting someone to a post or organization...
[usu. as modifier] a formal introduction to a new job...
Induct > verb
1. admit (someone) formally to a post or organization...
--------------------------
Mae Geiriadur yr Academi a'r Termiadur yn cynnig SEFYDLU ar gyfer yr
ystyron 1 uchod ac yr wyf yn gyfarwydd â'r defnydd o 'blwyddyn sefydlu'
etc. (Ac yn cofio Cyfarfod Sefydlu tad Huw fel gweinidog i ni!)
Mae ystyron technegol eraill yn ymwneud ag electromagneteg ac â rhesymeg.
Defnyddir ANWYTHO ar gyfer yr ystyron a'r meysydd hyn (Geiriadur yr Academi
a'r Termiadur). Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn rhoi diffiniad yng
nghyd-destun rhesymeg. [Ac yn nodi mai 'cyfaddasiad diweddar o'r Lladin
INDUCTIO' yw'r gair; proses gyffelyb i'r hyn sydd wedi rhoi STRWYTHUR
inni.]
Ystyr arall yw'r un meddygol (process of brining on childbirth...')
Rhaid i mi gyfaddef bod y Ganolfan Safoni Termau wedi cynnig tri
chyfieithiad gwahanol ar gyfer hyn(wps!): CYMELL, YSGOGI, a PRYSURO...
Prys
"Roberts, Huw" wrote:
>
> Mae capeli Cymru wedi cynnal Cyfarfodydd Sefydlu ar gyfer eu gweinidogion ar
> hyd y blynyddoedd, tra bo'r capeli Saesneg eu hiaith yn cynnal Induction
> Meetings.
> Huw
--
------------
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
|