Ydyw 'learning curve' yn meddwl profiad trwy ddysgu?- roeddwn dan yr argraff
mai cromlin sy'n dangos y ffordd mae pobl yn dysgu yw - cyflym ar y cychwyn
ac wedyn arafu weithiau, pan fydd pobl yn credu nad ydynt yn dysgu dim byd
ac hyd yn oed meddwl eu bod yn anghofio peth o'r hyn y maent wedi'i ddysgu.
Gellir defnyddio 'learning curve' felly ar gyfer pynciau/pethau sy'n cael eu
dysgu'n ffurfiol - lle mae profiad uniongyrchol yn rhan fechan o'r broses
ddysgu. Mae 'profiad addysgol' Lowri'n swnio'n well imi.
----- Original Message -----
From: "Lowri Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, November 28, 2001 1:29 PM
Subject: Re: learning curve
Yr wyf wedi defnyddio "profiad addysgol" yn y gorffennol.
Lowri
>>> [log in to unmask] 11/28/01 01:01pm >>>
Mae'r ystyr yn awgrymu rhywbeth fel 'dysgu trwy brofiad' ond mae'n anodd
cael enw yn hytrach na berf. Fyddai 'profiad addysgol' yn gwneud tybed neu
ydy hynny'n rhy gyffredinol? 'profiad sy'n dysgu' efallai?
Catrin
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, November 28, 2001 12:52 PM
Subject: Re: learning curve
Nis gwn - ond mae 'termllyd' yn air nobl.
Tim
-----Original Message-----
From: Geraint Lovgreen [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, November 28, 2001 12:53 PM
To: [log in to unmask]
Subject: learning curve
Learning curve - unrhyw awgrymiadau?
(ar wahân i "gromlin ddysgu" - rhywbeth mwy idiomatig a llai termllyd fase'n
dda)
Diolch, Geraint
|