Cofio'n ôl i'r hyn a ddysgais wrth wneud 'British Government and Politics'
lefel A. Dw i wrthi ar hyn o bryd yn ceisio dod o hyd i ffynhonell, ond fel
y nodais nid yw Prydain (fawr neu beidio) yn cynnwys Gogledd Iwerddon - dyna
paham nad yw'n bosib cael pensiwn Prydeinig (sef pensiwn y wladwriaeth) yng
Ngogledd Iwerddon, os cofiaf yn iawn mae'n dweud na ellir ei dalu y tu allan
i Brydain. Cafodd fy mrawd oedd yn arfer gweithio i'r DVLA (ond yn Lloegr)
draferth gan un o ddinasyddion y D.U. sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon oedd am
gofrestru ei gar, roedd yn rhaid i'm brawd esbonio nad oedd yn bosib gwneud
hyn gan ei fod yn byw y tu allan i Brydain - rhywbeth nad oedd y dyn druan
hwn yn ei ddeall. Bu'n rhaid i'm brawd ei gyfeirio at yr awdurdodau yng
Ngogledd Iwerddon wedyn.
Os ydwyf yn anghywir am Prydain = Lloegr a Chymru, a Prydain Fawr = Prydain
a'r Alban, gallaf fyw gyda hynny ond yn bendant oherwydd sefyllfa Gogledd
Iwerddon dylid osgoi defnyddio Prydain i olygu y Deyrnas Gyfunol.
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 16, 2001 12:54 PM
Subject: Prydain Fawr
Fy nealltwriaeth i oedd taw trosiad o 'Magna Britannia' oedd 'Prydain Fawr',
ac i'r enw hwn gael ei fathu i ddynodi Ynys Prydain gan fod 'Britannia' yn
Lladin Ôl-Ymerodrol yn dynodi Llydaw bron yn ddieithriad. Beth yw'r
ffynhonell/awdurdod dros 'Prydain = Cymru a LLoegr,
Prydain Fawr = Prydain a'r Alban'?
Tim
-----Original Message-----
From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Wednesday, November 14, 2001 8:26 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: DU
Dylid osgoi defnyddio 'Prydain' os ydys yn sôn am y Deyrnas Unedig - nid yw
Prydain a'r Deyrnas Unedig yn gyfystyr.
Prydain = Cymru a LLoegr
Prydain Fawr = Prydain a'r Alban
Y Deyrnas Unedig (neu Gyfunol) = Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
Mae hyn yn glir o enw swyddogol y wladwriaeth sef yn Saesneg - The United
Kingdom of Great Britain and Northern Ireland.
Mae'r goblygiadau cyfreithiol hyn yn bwysig, er enghraifft os bydd llyfr
pensiwn yn nodi na ellir talu'r pensiwn y tu allan i Brydain Fawr, chewch
chi mo'ch pensiwn yng Nghogledd Iwerddon!
Cytunaf fod D.U. yn anodd i ddeall ar lafar ac felly byddwn yn awgrymu
defnyddio'r Deyrnas Unedig.
|