-----Original Message-----
From: teulu lewis [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Tuesday, October 02, 2001 10:47 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: outsourcing
1 Mae'n ddrwg gen i John, Tim a Meinir ond rwyf yn casau allfynonellu.
> Cyngor Ffransis Payne i Dr. Iorwerth Peate parthed esgidiau swęd fyddai'n
briodol fan hyn, sbo!
2 Chlywais i erioed yr un rheolwr yn dweud "Fe wnawn allfynonellu'r gwaith
yna".
>Tro cynta i bob dim! (Cofiwch, fe glywais ambell un yn dweud 'Well i ni
owtsorsio'r cętro.' ...)
3 Clywais ambell un yn dweud "Mi wnawn ni brynu'r gwasanaeth /gwaith yna
i mewn" a'r mewn yn cyfleu nad ydy'r gwaith yn cael ei wneud yn y
cwmni/busnes eisoes.
>Holl bwynt ailffynonellu yw disodli gwasanaeth sydd *yn* cael ei wneud tu
fewn ar hyn o bryd.
4 Clywais rai'n dweud eu bod yn anfon gwaith allan neu'n
is-gontractio neu'n comisiynu darn o waith ond ni chlywais allffynonellu
erioed.
> Gw. 2 uchod.
5 Nid camel mohono ond erthyl (gobeithio).
> Amser yn unig a ddengys.
6 Os nad yw Cofis Caernarfon
neu ffermwyr Maldwyn yn ei ddweud yna nid yw'r gair yn bodoli! "Dwi'n meddwl
y rho i alwad i Dai fory'r bore i weld os gallaf allfynonellu'r cneifio
eleni". Scarcely believe.
> Ife fersiwn werinol yw hon o'r rhigwm enwog am un o Feistri Coleg Balliol
ers talwm?
7 Dim bathu os gwelwch yn dda y tro hwn.
> Beth am y sawl a fathodd y gair 'bathu'?
Cofion
Magi
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 02, 2001 02:46
Subject: outsourcing
> Mewn Astudiaethau Busnes Safon Uwch, ceir
>
> "Such outsourcing of operations may include marketing research,
> recruitment and product development and gives the firm
> greater flexibilty to meet changing market conditions."
>
> Os oes rhaid bathu term, beth am allffynonellu? Oes gan rywun
> wrthwynebiad?
>
> John.
>
|