-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Tuesday, October 02, 2001 5:23 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: outsourcing
1 Mae trafodaeth ar ystyr y term "outsourcing" a sut i'w gyfieithu yn
nghofnodion y grwp, o dan y pennawd "outsourcing" neu "Re: outsourcing", ers
mis Gorffennaf llynedd.
> Diolch am f'atgoffa - rown i wedi llwyr anghofio!
2 Mi wnes i gynnig: "prynu/cael/caffael (o ffynhonnell allanol); darganfod
ffynhonnell allanol o". Eglurodd Catrin Alun mai cyd-destun y gair yn ei
hymholiad oedd "cael gwasanaeth o rywle heblaw'r sector cyhoeddus ar o+l
tendro ...". Rhoddodd Tim Saunders ('dych chi ddim yn cofio, Tim?)
> Ymmm, ydw ..
ddiffiniad mwy di-flewyn-ar-dafod,
3 a Neil Shadrach wnaeth ei ddiffinio fel
"disodli gwasanaeth mewnol ag un allanol".
> dipyn yn fwy poleit na f'un i, mae'n debyg.
4 *Pli+s* gawn ni osgoi efelychu jargon y Saesneg a bathu geiriau hyll,
> Gwell iddyn nhw beidio â bod yn salw, ond cyfleu'r ystyr yn eglur yw'r
flaenoriaeth.
5 diangen.
> Diangen yn ôl canllawiau pwy?
6 Cytunaf yn llwyr a+ Ken Owen y gellid defnyddio dau neu dri gair
syml i gyfleu'r ystyr.
> Diau y gellid, ond anghymwynas â'r iaith a'r darllenydd fel ei gilydd yw
llenwi tudalen neu arwydd â chymalau mawr hirwyntog.
7 Onid yw hi'n well i'r darllennydd droi at y Gymraeg
am eglurhad o'r Saesneg na'r ffordd arall rownd.
> Cytuno'n llwyr.
Hwyl,
Ann
> Hwyl am y tro,
>
> Tim
|