AnneCorkett:
Pa fath o Gymraeg ydyw "just", a "ffitio", dywedwch? A pa fath o Gymraeg,
hefyd, ydyw "slafaidd"? Heblaw fod y gair hwn yn cynnwys yr hen agwedd
hilyddol, gïaidd, Saesnig, sydd yn wreiddyn iddo.
Problem y "trawst" a'r "brycheuyn" eto, onid 'e.
MT
Jasper
Ann Corkett wrote:
> Sgwrs yng nghartref y Griffithsiaid:
>
> B: Pam mae angen dilyn Saesneg yn slafaidd? Sut y gall rhywbeth fod yn
> "safe" heb fod yn "secure"?
>
> A: Mi all adeilad fod yn lle diogel i weithio, heb fod yn "secure" rhag
> lladron.
>
> B: Yr ateb, felly, yw defnyddio "diogel rhag (beth bynnag yw'r perygl).
>
> Nid yw "yn ddiogel rhag niwed a rhag crwydro" yn swnio'n iawn rywsut, os
> mai dyna ystyr "safe and secure". Efallai byddai jyst "cadw nhw rhag niwed
> a rhag crwydro" yn iawn. Awgrym arall gan Bruce yw "yn ddiogel a dianaf",
> ond chi sy'n gwybod a yw un o'r rhain yn ffitio'r cyd-destun.
>
> Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|