Os oes dadl argyhoeddiadol yn erbyn 'diogeledd', carwn ei glywed. Fel arall, ni welaf fawr o ddewis, yn enwedig clywed y dadleuon yn erbyn y termau erailll.
Tim
>>> teulu lewis <[log in to unmask]> 10/26/00 02:49pm >>>
I fynd yn +APQ-l at hen drafodaeth. Wrthi'n cyfieithu deunydd am ddarpariaeth, lleoliadau gwasanaeth gofal ac addysg blynyddoedd cynnar h.y. plant bach. Un frawddeg sy'n s+APQ-n am safety a security (h.y. cadw'r darlings bach o dan glo+ACE-) o fewn ychydig eiriau i'w gilydd. Ble byddwn yn hapus iawn defnyddio gwarchod/gwarchodaeth am security fel rheol rwyf yn petruso braidd yn y cyd-destun hwn - mae gwarchodaeth plant yn golygu rhywbeth tra gwahanol i security - child protection - tra mae gwarchod plant yn golygu rhywbeth arall eto - pwy sy'n gwarchod y plant heno? - Does ryfedd fod fy ngwallt yn troi'n wyn. O leiaf gallaf fod yn hollol bendant na fyddaf yn defnyddio diogeledd.
Magi Lewis
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|