Diolch am yr help!
Elin
----- Original Message -----
From: Dilwyn Roberts Young <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 23, 2000 5:11 PM
Subject: Re: Neges hir iawn
> O ran 'Upload' a 'Download' - mi fum i mewn dwy ysgol yn ddiweddar - (un
ar
> ynys Mon a llall yng Nghwm Gwendraeth!!) ac roedd y ddwy ysgol wedi
> defnyddio 'lawr-lwytho' a 'lan-lwytho'! Ia! 'Lan' yn Sir Fon!!!!!!
>
> Dydw i ddim yn siwr o gyd-destun 'cyrchu gwefan' ond rydw i'n defnyddio
> 'cael mynediad' wrht son am 'access'.
>
> TGC neu TGCh
> Mae ESTYN (Arolygaeth Ei Mawrhydi Dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru)
> wedi cyhoeddi dogfen eleni yn dwyn y teitl:
> 'Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol
> athrawon'
> gan ddefnyddio TGCh - rhaid i mi gyfaddef mai TGCh ydw i'n ei ddefnyddio.
>
> Safwe? Plis, plis, plis dim safwe. Unrhyw beth ond safwe! Y gair mwaf
> chwydlyd i gael ei fathu erioed! Gwefan neu safle ar y we.
>
> Chat room - Siop siarad? Stafell sgwrsio? Mae 'Stafell Sgwrsio' yn fwy na
> 'Siop Siarad' (gobeithio!)
>
> Links - 'dolennau' neu 'cysylltiadau' -Does gen i ddim ateb! Cysylltiadau
> fydda i'n ei ddefnyddio ond dydw i erioed wedi hoffi na cysylltiadau na
> dolennau/dolenni! Diolch am fentro 'safweoedd' ... wps ... 'gwefannau
eraill'.
>
> Home - Hafan v Cartref. Ydy cartref yna hafan? Cwestiwn mawr! Cofiwch
eiriau
> Gil Scott-Heron - 'Home is where the hatred is'!
>
> Dyna ddigon o fwydro!
>
> Hwyl
>
> Dilwyn
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|