Ymddengys hyn yn syniad *arbennig* o dda.
Tim
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 10/23/00 11:59am >>>
i) Mae Tim yn so^n am "fy mhwyslais i", yn ei e-bost ynghylch y
Weinidogaeth. Gallaf ddyfalu bod rhan o'r neges i fod mewn llythrennau
eidalaidd, a gallaf ddyfalu pa ran, ond ni allaf eu gweld. Deallaf nad yw
pethau fel "italics" a "bold" yn dangos mewn neges e-bost. 'Rywf wedi
darllen yn rhywle mae'r ffordd arferol o ddod dros hyn yw cynnwys y geiriau
i'w pwysleisio rhwng se^r. Ydy hyn yn *glir*?
ii) Nid yw negeseuon rhai pobl yn lapio i ffitio'r sgri^n. Fel arfer
'rwy'n copio'r neges i Word er mwyn ei darllen yn rhwydd, a chael mod i
wedi dileu'r gwreiddiol a cholli'r teitl. A yw rhywun yn gwybod sut y
gellid dod dros hyn? Ydy o'n deillio o rhywbeth y dylai'r awdur ei newid,
neu rhywbeth y gall yr un sy'n derbyn y negeseuon ei newid? Fel efo
"B.O.", sut mae dweud wrth yr awduron (o ran hynny, a ydw i'n euog hefyd,
heb imi wybod?)
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|