Print

Print


Ymddengys hyn yn syniad *arbennig* o dda.
Tim

>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 10/23/00 11:59am >>>
i)  Mae Tim yn so^n am "fy mhwyslais i", yn ei e-bost ynghylch y
Weinidogaeth.  Gallaf ddyfalu bod rhan o'r neges i fod mewn llythrennau
eidalaidd, a gallaf ddyfalu pa ran, ond ni allaf eu gweld.  Deallaf nad yw
pethau fel "italics" a "bold" yn dangos mewn neges e-bost.  'Rywf wedi
darllen yn rhywle mae'r ffordd arferol o ddod dros hyn yw cynnwys y geiriau
i'w pwysleisio rhwng se^r.  Ydy hyn yn *glir*?

ii)  Nid yw negeseuon rhai pobl yn lapio i ffitio'r sgri^n.  Fel arfer
'rwy'n copio'r neges i Word er mwyn ei darllen yn rhwydd, a chael mod i
wedi dileu'r gwreiddiol a cholli'r teitl.  A yw rhywun yn gwybod sut y
gellid dod dros hyn?  Ydy o'n deillio o rhywbeth y dylai'r awdur ei newid,
neu rhywbeth y gall yr un sy'n derbyn y negeseuon ei newid?  Fel efo
"B.O.", sut mae dweud wrth yr awduron (o ran hynny, a ydw i'n euog hefyd,
heb imi wybod?)

Ann



%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%