Mae hyn yn swnio'n addawol iawn. Tybed a oes modd wyntyllu'r syniad yma ar ryw lefel swyddogol - e.e. fe fyddai o gymorth pe bai'r Cynulliad yn deddfu i'r perwyl yma.
Tim
>>> "Thomas, David A" <[log in to unmask]> 09/07/00 12:05pm >>>
Er mae am gyfrifiaduron yn unig mae Geiriadur yr Academi yn cynnig
"gwarchodaeth", a fyddai hyn yn cyfleu ystyr "security" yn y cyd-destun hwn
yn well na "diogelwch"?
> ----------
> From: Tim Saunders[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: [log in to unmask]
> Sent: Thursday, September 07, 2000 11:54
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: security
>
> Cwestiwn da, ac yn un sy'n fy mhoeni i ers meitin. Er y defnyddir
> 'diogelwch' am y ddau yn gyson, fel y dywaid Annes y mae 'security' yn
> cynnwys elfen gyfreithiol, os nad gwleidyddol. Unrhyw gynigion?
>
> Tim
>
> >>> "Annes Gruffydd" <[log in to unmask]> 09/07/00 10:25am >>>
> Cyd-destun: safloedd adeiladu - cadw peiriannau dan glo, nadu tresbaswyr
> ayyb. Unrhyw gynigion? Fedra i dim defnyddio diogelwch achos mae iechyd a
> diogelwch yn bennawd ar wahân. Ydi sicrwydd yn gywir yn y cyd-destun yma?
>
> Annes
>
>
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|