Diolch am y drafodaeth am draddodi - dwi di defnyddio'r gair droeon yn yr
wythnosau ers hynny.
Ga i godi sgwarnog arall? Dwi di penderfynu cael gwarad â'r gair archebu yng
nghyd-destun tocynna. Yn achos ffurflen, 'ffurflen codi tocynnau' ta
'ffurflen godi tocynnau' fyddai'n gywir? Wn i dyliwn i dreiglo'n feddal ar
ôl ffurflen, ond os oes na ddau air yn dilyn, ydi hynny'n peidio â bod? Help
plîs. Diolch.
Wrth basio - gweld bod Bruce Griffiths yn deud ei bwt ar y rhwydwaith yma -
ga i achub y cyfle i ddeud - dwn i ddim wir sut on i'n dod i ben heb y
geiriadur - tan gamp.
Annes Gruffydd
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|