Diolch am y geiriau da, Annes, a phob cofion atat.
Bydd argraffiad newydd o Eiriadur yr Academi ar gael yn fuan gyda llu o
ychwanegiadau (ac o gywiriadau, ysywaeth).
Yn ramadegol, gellir dadlau bod 'ffurflen codi tocynnau' a 'ffurflen godi
tocynnau' ill dwy yn gywir; mae'r glust yn awgrymu 'ffurflen godi' efallai.
Pe na bai gwrthrych yn dilyn y berfenw, yna'n sicr 'ffurflen godi' a
swniai'n fwy naturiol (cymh. adran rwymo' etc.).
Fy sylw olaf ynghylch 'genynnol', 'genetig' etc: bwriad golygyddion
Geiriadur yr Academi fu osgoi creu geiriau newydd os gellid. Yn hytrach,
cymreigio'r lleiaf posibl ar wedd geiriau Groegaidd megis 'cytogenetic':
felly 'sytogenetig' yn hytrach na bathu 'sytoenynnol' (a fyddai'n golygu
treglo 'genynnol').
Bruce Griffiths
Tra 'mod i'n teipio sylwadau Bruce, a gaf i ddiolch yn fawr iawn i bawb a
gyfrannodd sylwadau mewn ymateb i'm hymholiad innau.
Ann Corkett
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|