'Rwyf newydd ddarllen y tair neges blaenorol. Os yw Melangell wedi anfon
copi o'm sylwadau, 'does dim angen imi wneud rhagor ar hyn o bryd, ond i
ddweud bod Ian Gordon o Trados wedi anfon ataf yn ymateb i rai o'r sylwadau
ac hefyd mae gen i well dealltwriaeth o'r system fy hun erbyn hyn. Hefyd
mae'n bosibl cael CD o fersiwn prawf i brofi'r system cyn prynu, a
buasai'n well trio rhywbeth fel 'na'n gyntaf i ddeall y problemau, heb son
am yr atebion. Mae gan Trados enwau cyfieithwyr mewn ieithoedd eraill sy'n
defnyddio'r system ac yn barod i roi gairda.
Ynghylch y pris - siom enbyd i mi oedd gorffen talu am system Trados
(cefais dalu dros cyfnod o dri mis ar ol ei derbyn) a gweld y pris yn mynd
i lawr yn syth wedyn!
'Roeddwn i ar ddeall bod y Swyddfa Gymreig wedi penderfynu prynu Trados -
dyna pam y penderfynais ei brynu ar draul unrhyw system arall - er
enghraifft, mae 'na un o'r enw Deja-vu, a gellir llwytho fersiwn prawf
ohoni o'r We (efallai bod yr un peth yn wir o Trados erbyn hyn?).
Croeso ichi gysylltu a fi eto, nes ymlaen, os oes cwestiynau gennych ar y
sylwadau.
Gyda llaw - a dderbyniodd pobl yn y grwp fy ymholiad ar "genetic
modification" ayb - 'dw i ddim wedi cael yr un ymateb?
Ann Corkett
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|