Pam y marc cwestiwn ar ol blwyddiadur? Casgliad o flynyddoedd ydy hwnnw (7
neu 10 dwi'n credu) efo dim ond Suliau ynddo. Sion yn ei golli'n
rheolaidd!!!
Catrin
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 06, 2007 11:00 AM
Subject: Re: handhelds
> Pan oedd y grwp yn trafod "Palmtop" anfonais y neges isod:
>
> Yn anffodus, nid yw gliniadur yn batrwm y dylid ei ddilyn. 'Roeddwn i
> wedi
> clywed Bruce yn beirniadu'r gair o'r blaen, felly gofynnais am eglurhad:
> Mae "-iadur" naill ai'n gasgliad o rywbeth - meddyliwch am ddyddiadur,
> geiriadur, blwyddiadur (?), Suliadur ayb - neu'n mynd efo rhyw ferf -
> teipiadur, cyfrifiadur ayb. Nid yw gliniadur yn gasgliad o liniau ac nid
> yw'n glinio.
>
> Efallai nad oes modd disodli "gliniadur", ond dylid bod yn ofalus cyn ei
> ddilyn. Ar ben hynny mae "llawiadur" yn swnio braidd yn anhyLAW i mi, ac
> nid yw'r ystyr ynghlwm yn y gair. Ond yw hi'n beth da nad oes neb wedi
> bedyddio'r ymbarel yn "lawiadur"?
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Huw Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, July 06, 2007 10:42 AM
> Subject: Re: handhelds
>
>
>> Llawiadur?
>>
>> Huw Roberts
>> Cyfieithydd / Translator
>> 07957 182 087
>> [log in to unmask]
>> Dros Gymru'n gwlad!
>>
>>>>> GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]> 03/07/2007 17:24 >>>
>> Ydw i'n iawn mai teclynnau fel MP3s ac I-pods ydy'r rhain? A oes enw
>> Cymraeg eto? Dyma'r
>> cyd-destun -
>> ... simultaneous hard-copy and digital publication available for
>> handhelds and mobile phones ...
>>
>> Diolch y.ll.
>>
>> Glenys
>>
>>
>> --
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.10.1/888 - Release Date:
>> 06/07/2007 06:36
>>
>>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.476 / Virus Database:
> 269.10.0/887 - Release Date: 7/5/2007 13:55
>
>
|