Gair i gadarnhau'r hyn mae David wedi'i ysgrifennu. Mae'n hollol iawn
wrth gwrs.
Dyma'r termau a'r teitlau sydd wedi cael statws 1 yng nghronfa'r Cynulliad.
Dylid ychwanegu fodd bynnag nad yw'r rhain yn gyson â'i gilydd bob tro,
neu a bod yn fanwl gywir, fod rhannau o'r teitlau yn anghyson. Y
drafferth wrth gwrs yw nad oes modd mynd yn ôl a newid enw teitl dogfen
unwaith iddi ymddangos.
Enghraifft o hyn yw 'looked after children'. Mae'n codi mewn sawl teitl,
fel arfer yn y Gymraeg fel 'plant sy'n derbyn gofal' ond ceir o leiaf un
enghraifft o 'plant y gofelir amdanynt', hefyd mewn teitl sy'n dwyn
statws 1.
Ar nodyn cadarnhaol, mae gen i deimlad fod pethau'n gwella.
Wrth eu harfer bydd y termau hyn yn dod yn fwy cyfarwydd yn Gymraeg, a
bydd llai o ddryswch.
Unrhyw un yn cofio'r sefyllfa cyn i Wynedd ddechrau gweithredu drwy
gyfrwng y Gymraeg? cyn y Ddeddf Iaith? cyn sefydlu'r Cynulliad? cyn bod
diwydiant cyfieithu yng Nghymru? Mae pethau wedi gwella'n aruthrol y
blynyddoedd diwethaf hyn.
Delyth
Ysgrifennodd David Bullock:
>Yn sgil cyfeiriad Delyth at y Cynulliad, mae'n werth nodi bod un categori o
>waith y Cynulliad y dylen ni feddwl amdano fel y gair olaf, sef deddfwriaeth
>y Cynulliad.
>
>Rwy'n credu bod Deddf Llywodraeth Cymru yn dweud rhywbeth i'r perwyl bod gan
>y Cynulliad hawl i bennu ystyron geiriau Cymraeg a Saesneg, ac yn y
>rheoliadau a'r gorchmynion sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad fe welwch chi
>yn aml fod geiriau ac ymadroddion allweddol y mesur yn cael eu diffinio yn y
>ddwy iaith.
>
>Er mor wantan yw grym y Cynulliad, mae gan y geiriau a'r ymadroddion hyn rym
>y gyfraith y tu cefn iddyn nhw.
>
>
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Delyth Prys
>Sent: 11 April 2005 16:26
>To: David Bullock
>Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>
>
>
>
>>O ran diddordeb, gan fy mod yn gymharol newydd i'r byd cyfieithu, beth yw'r
>>drefn o ran bathu a safoni termau fel arfer? Gan bwy y mae'r gair olaf ar
>>hyn er enghraifft, os o gwbl?
>>
>>
>>
>>
>Wel, dyna godi cwestiwn diddorol - a dyrys!
>Yr ateb byr yw mai'r sawl sy'n talu sydd biau'r awdurdod.
>Rydyn ni yma yn ceisio safoni termau yn y Ganolfan Safoni Termau
>(bellach Uned e-Gymraeg Canolfan Bedwyr) ers dros ddeng mlynedd.
>Os ydyn ni'n gwneud gwaith i gwsmer ac maen nhw'n dweud mai dyna fydd y
>termau safonol iddyn nhw mae gan hynny 'awdurdod' e.e. gyda'n gwaith i
>ACCAC maen nhw'n gofyn i gyfeithwyr sy'n gwneud gwaith iddyn nhw
>ddefnyddio'r termau hynny, a dyna fydd ar y papurau arholiad - sy'n
>ddadl gref i athrawon eu defnyddio.
>Ond dyw hynny ddim yn gorfodi neb arall i'w defnyddio. Yr un fath gyda'r
>Cynulliad, maen nhw'n gofyn i gyfieithwyr ddefnyddio termau TermCymru,
>ac os nad yw cyfeiithwyr allanol yn eu defnyddio, gallan nhw wrthod talu
>am y gwaith. Ond unwaith eto, does dim rhaid i neb arall eu defnyddio.
>Mae gwrthdaro yn gallu codi os yw dau gorff yn mynnu termau gwahanol -
>ond wedyn mae hyn yn eithaf cyffredin yn y byd rhyngwladol e.e. lle mae
>gan gwmniau ceir eu henwau gwahanol ar yr un darnau.
>
>Wrth gwrs, mae'r fath beth yn bod ag awdurdod moesol - neu o leiaf hyder
>fod corff safoni yn gwneud penderfyniadau call. Ar hyn o bryd mae safon
>rhyngwladol newydd ar safoni yn cael ei greu (wir-yr) ac yn hwn bydd
>consensws yn cael ei enwi fel un o'r angenrheidiau. Efallai mai dyna
>paham rydyn ni wedi bod yn teimlo yn debycach i ddyfarnwyr gêm rygbi nag
>academyddion doeth ers y deng mlynedd diwethaf. Gallwch chi ddyfalu pwy
>sydd ar waelod y sgrym.
>
>Delyth
>
>
>
>
>>____________________
>>Meinir Eluned Jones
>>Cyfieithydd / Translator
>>Gyrfa Cymru
>>Prif Swyddfa
>>5 Stryd y Castell
>>Caernarfon
>>LL55 1SE
>>
>>Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282
>>E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
>>www.gyrfacymru.com
>>
>>-----Original Message-----
>>From: Sian Roberts [mailto:[log in to unmask]]
>>Sent: 11 April 2005 15:30
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>
>>Cytunaf i â'r ardderchocach Ddavid.
>>Yes!!
>>
>>Ond, yn y frawddeg dan sylw, tybed a fyddai "dylech drefnu i fod yn
>>bresennol yn y cyfweliadau" yn swnio'n fwy naturiol?
>>
>>-----Original Message-----
>>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
>>Sent: 11 April 2005 15:23
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>
>>Efallai 'mod i'n un o'r rhai y mae Berwyn wedi'u gweld yn defnyddio
>>"ar".
>>
>>Mae'n ddiddorol bod Geiriadur yr Academi yn cofnodi dwy ferf: "arsyllu
>>(rhth, ar rth)" neu "arsylwi (ar rth)". Hynny yw, dyw e ddim wedi
>>cofnodi
>>enghreifftiau lle mae "arsylwi" yn cael ei ddilyn gan wrthrych heb yr
>>arddodiad.
>>
>>Dwy ddim yn deall pam y byddai berf sy'n cael ei defnyddio mewn cyfuniad
>>ag
>>arddodiad yn colli'r arddodiad wedyn wrth i ragddodiad gael ei ychwanegu
>>ati
>>i greu berf gyfansawdd.
>>
>>Hynny yw, dyw "canolbwyntio ar ei waith" ddim yn troi'n "gorganolbwyntio
>>ei
>>waith", dyw "edrychwch arno fe" ddim yn troi'n "ciledrychwch e", dyw
>>"gwenu
>>ar ryw ferch" ddim yn troi'n "crechwenu rhyw ferch". Er ychwanegu
>>rhagddodiad, mae'r arddodiad yn cael ei gadw yr un fath.
>>
>>mae hyn eto yn ffafrio cadw "ar" ar ôl "arsylwi".
>>
>>Eto i gyd, mae "ar-" fel rhagddodiad yn wahanol i'r rhain wrth gwrs, am
>>ei
>>fod yn unffurf â'r arddodiad "ar". Ac mae'n ymddangos bod rhyw rwystr yn
>>cadw rhai siaradwyr o leiaf rhag ailadrodd yr un ffurf fel rhagddodiad
>>ac
>>arddodiad yn yr un ymadrodd. Pam dylai hynny fod tybed?
>>
>>
>>
>>
>>
>>-----Original Message-----
>>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones
>>Sent: 11 April 2005 14:20
>>To: David Bullock
>>Subject: Re: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>
>>
>>Na minne chwaith. Gan mai cyfuniad yw 'arsylwi' yw 'ar' a 'sylwi',
>>byddwn
>>i'n dadlau nad oes angen ailadrodd yr 'ar', er 'mod i wedi gweld hynny
>>mewn
>>sawl cyfieithiad dros y blynyddoedd. Yr unig enghraifft arall y gwn i
>>amdani
>>o 'ar' + xxxx + 'ar' yw 'arbenigo ar', ond gan nad 'ar' + 'penigo' (!)
>>roddodd fod i'r ffurf honno, dyw hynny'n ddim help.
>>
>>Mae'n bosib, wrth gwrs, na wnaeth y rhai a fathodd 'arsylwi' ddim
>>ystyried a
>>ddylid rhoi 'ar' wrth ei gwt e.
>>
>>Berwyn
>>
>>----- Original Message -----
>>From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
>>To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
>>Sent: Monday, April 11, 2005 2:03 PM
>>Subject: RE: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>
>>
>>Fyddwn i ddim yn ychwanegu'r arddodiad. 'Arsylwi staff/plant/dosbarth
>>fyddwn i'n ei ddweud.
>>Nia
>>
>>
>>
>>
>>
>>>----------
>>>From: Meinir Jones[SMTP:[log in to unmask]]
>>>Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>vocabulary
>>>Sent: 11 April 2005 13:39
>>>To: [log in to unmask]
>>>Subject: Arddodiad ar ôl 'arsylwi'
>>>
>>><<File: image001.gif>>
>>>Helo!
>>>A oes angen 'ar' ar ôl arsylwi, h.y "arsylwi staff" ynteu "arsylwi ar
>>>staff" ddylem ni ei ddweud?
>>>Diolch rhag blaen am unrhyw oleuni ar y mater!
>>>Meinir
>>>____________________
>>>Meinir Eluned Jones
>>>Cyfieithydd / Translator
>>>Gyrfa Cymru
>>>Prif Swyddfa
>>>5 Stryd y Castell
>>>Caernarfon
>>>LL55 1SE
>>>Ffôn uniongyrchol / direct phone no: 01286 679282
>>>E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
>>><mailto:[log in to unmask]>
>>>www.gyrfacymru.com <http://www.gyrfacymru.com>
>>>
>>>
>>>_______________________________________________________
>>>
>>>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
>>>gyfrinachol, ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r
>>>
>>>
>>>
>>>
>>hanfod
>>
>>
>>
>>
>>>y'u cyfeirir hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar
>>>
>>>
>>>
>>>
>>gam
>>
>>
>>
>>
>>>a wnewch chi roi gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda.
>>>
>>>
>>>
>>>
>>Nodwch
>>
>>
>>
>>
>>>mai barn yr awdur yn unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn,
>>>
>>>
>>>
>>>
>>ac
>>
>>
>>
>>
>>>nid ydyw o anghenraid yn cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf,
>>>
>>>
>>>
>>>
>>dylai'r
>>
>>
>>
>>
>>>derbynnydd wirio'r e-bost hwn ac unrhyw atodion rhag presenoldeb
>>>
>>>
>>>
>>>
>>firysau.
>>
>>
>>
>>
>>>Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir
>>>
>>>
>>>
>>>
>>gan
>>
>>
>>
>>
>>>unrhyw firws a drosglwyddir gan yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com
>>>
>>>This email and any files transmitted with it are confidential and
>>>
>>>
>>>
>>>
>>intended
>>
>>
>>
>>
>>>solely for the use of the individual or entity to whom they are
>>>
>>>
>>>
>>>
>>addressed.
>>
>>
>>
>>
>>>If you have received this email in error please notify the sender.
>>>
>>>
>>>
>>>
>>Please
>>
>>
>>
>>
>>>note that any views or opinions presented in this email are solely
>>>
>>>
>>>
>>>
>>those
>>
>>
>>
>>
>>>of the author and do not necessarily represent those of Careers Wales.
>>>Finally, the recipient should check this email and any attachments for
>>>
>>>
>>>
>>>
>>the
>>
>>
>>
>>
>>>presence of viruses. The company accepts no liability for any damage
>>>caused by any virus transmitted by this email. www.careerswales.com
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>******************************************************************
>>
>>This email and any files transmitted with it are confidential
>>and intended solely for the use of the individual or entity to
>>whom they are addressed. If you have received this email in error
>>please notify the administrator on the following address:
>> [log in to unmask]
>>
>>
>>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
>>gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
>>hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
>>gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
>> [log in to unmask]
>>
>>*******************************************************************
>>
>><b>_______________________________________________________
>>
>>Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol,
>>ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r hanfod y'u cyfeirir hwy
>>atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar gam a wnewch chi roi
>>gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda. Nodwch mai barn yr awdur
>>
>>
>yn
>
>
>>unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn, ac nid ydyw o anghenraid yn
>>cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf, dylai'r derbynnydd wirio'r e-bost
>>
>>
>hwn
>
>
>>ac unrhyw atodion rhag presenoldeb firysau. Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw
>>atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir gan unrhyw firws a drosglwyddir gan
>>yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com
>>
>>This email and any files transmitted with it are confidential and intended
>>solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
>>If you have received this email in error please notify the sender. Please
>>note that any views or opinions presented in this email are solely those of
>>the author and do not necessarily represent those of Careers Wales.
>>
>>
>Finally,
>
>
>>the recipient should check this email and any attachments for the presence
>>of viruses. The company accepts no liability for any damage caused by any
>>virus transmitted by this email. www.careerswales.com</b>
>>
>>
>>
>>
>>
>
>
>
|