'Dyw hyn yn ddim help o gwbl, ond 'rwy'n meddwl mai'r "ward" oedd y
peth, nid y "robe", h.y. lle i gardio'ch dillad, felly i fod yn hollol
gywir ni fyddai "llawrdrob" yn gweithio - os oes ots.
'Roeddwn i wastad wedi methu deall pam 'roedden nhw'n galw toiled mewn
castell Canoloesol yn "gardrobe", ond darllenais yn ddiweddar y byddai
pobl yn hongian dillad yn y toiled gan fod yr amonia yn yr awyr yn help
i lladd chwain mewn ffwr ac ati - dim syniad a ydy hynny'n wir.
Ann
On 25/01/2019 12:07, Gwenlli Haf wrote:
> Y pentwr dillad sy'n cael eu taflu driphlith draphlith ar lawr yr ystafell wely... oes'na unrhyw fflach o ysbrydoliaeth o blith y grwp, tybed?
> Rhaid cyfaddef mai 'fflordrob' faswn i'n ei ddweud ar lafar.
>
> Diolch
>
> Gwenlli Haf
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|