Yn cofio Llangawsai yn dda. Tarddiad yr enw yn siom fawr, gan ei bod yn gred ymhlith bechgyn Aber ers talwm i'r dreflan fod yn gartref ar un adeg i rai a âi ar hyd y sir yn cardota am gaws.
Tim
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 10/23/00 01:37pm >>>
*Os* oes angen addasu "sarn groes", pam nad "sarn *g*roesi"?!
Ond yn y cyfamser, mae Bruce wedi meddwl am rywbeth arall, sef "cawsai
(groes - *os* oes angen y "croes" o gwbl)" (cawsai, benywaidd, =causeway),
Gyda llaw, pwy sy'n cofio "Llangawsai", rhwng Llanbadarn ac Aberystwyth?
Â'r hen swyddfa post/siop wedi mynd, nid oes unrhyw beth i ddangos enw'r
ardal mwyach.
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|