Sgrifennodd Glenys Roberts:
> Cwestiwn i'r rhai ohonoch sy'n arbenigo mewn daeareg, neu â diddordeb yn y maes. Os 'mwyn' yw 'ore' a 'mwyn' yw 'mineral' - beth yw 'ore-mineral'?
Yn saesneg mae 'ore' yn cael ei ddiffinio fel mwyn wedi gloddio o
graig - nid mwyn pur yw e o reidrwydd. Mae'n fy atgoffa i o'r
gwahaniaeth rhwng 'halen' (y mwyn pur) a 'rock salt' neu 'halen
crai'.
Falle fyddai ystyried 'ore' fel deunydd crai yn gwneud fwy o synnwyr -
'mwynau crai'?
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|