Ie, mae'n lletchwith i ddweud y lleia', Mae'n debyg bydd yn well cadw
'crempog lysiau' ond ychwanegu 'Tsieineaidd' ar ei ôl i roi syniad gwell o'r
hyn a olygir.
Diolch am bob cynnig
> ----------
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Rhian
> Huws[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 16 October 2006 13:44
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Blas ar y Gwanwyn ar fore o Hydref
>
> Crempog lysiau sydd yn Bruce hefyd, ond mi fedrwch chi gael sawl
> gwahanol fath o 'spring roll' - cig, hwyaden, corgimychiaid a llysiau -
> felly falle bod 'crempog lysiau' yn dipyn o risg, oni bai eich bod chi'n
> gwybod i sicrwydd beth yw'r cynhwysion. Wedi dweud hynny, does gen i
> ddim cynnig gwell, heblaw am rywbeth fel 'crempog tsieineaidd (wedi
> ffrio)' neu rywbeth yr un mor anelwig!
>
> Rhian
> Canolfan Iechyd Cymru
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
> Sent: 16 October 2006 13:22
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Blas ar y Gwanwyn ar fore o Hydref
>
> Crempog lysiau sydd gan Fwrdd yr Iaith - efo treigliad.
>
> Falle bod well cadw at y term felly, er y byddai ychwanegu 'wedi ffrio'
> yn esbonio'n well efallai.
>
> Catrin
>
> ----- Original Message -----
> From: "Paul Thomas" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, October 16, 2006 9:57 AM
> Subject: Blas ar y Gwanwyn ar fore o Hydref
>
>
> Ymholiad eithaf anghyffredin i fore dydd Llun, ond a oes gan rywun
> syniad
> am sut i gyfieithu 'spring roll' yn Gymraeg. Yr unig gyfeiriad llwyddais
> ddod o hyd iddo at yr amheuthun Tsieineaidd hwn oedd cynnig Geiriadur yr
> Academi, sef 'crempog llysiau' ond i mi, gall hynny olygu unrhyw beth -
> 'vegetable crepe' er enghraifft. Hefyd mae crempog yn rhywbeth meddal
> fel
> arfer, ond fel mae pawb yn gwybod, mae 'spring roll' yn grimp gyda blas
> ac
> ansawdd hollol wahanol. Felly unrhyw awgrymiadau, unrhyw fflachiau o
> ysbrydoliaeth ar ddechrau wythnos newydd? Neu ddylwn i dderbyn 'crempog
> llysiau' er gwaethaf ei amwysedd?
>
> Diolch ymlaen llaw
> Paul
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.408 / Virus Database: 268.13.4/476 - Release Date:
> 10/14/2006
>
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|